WILLIAM, THOMAS (1761 - 1844), gweinidog Annibynnol ac emynydd

Enw: Thomas William
Dyddiad geni: 1761
Dyddiad marw: 1844
Priod: Jane William (née Morgan)
Rhiant: Margaret William
Rhiant: Richard William
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 1 Mawrth 1761, yn Nhrerhedyn, Pendeulwyn, Sir Forgannwg, mab Richard a Margaret William. Ymunodd yn ieuanc â'r Methodistiaid yn Nhre-hyl a daeth o dan ddylanwad David Jones, Llan-gan. Cefnodd ar y Methodistiaid ar ôl diarddeliad Peter Williams yn 1791, a dechreuodd ef ac eraill achos crefyddol yn y Britwn, ger Aberddawen. Ordeiniwyd ef yn weinidog yn yr un dull â David Williams, Aberthyn a Morgan John Lewis, a chodwyd capel Bethesda, Llanilltud Fawr, ganddo ef a'i braidd yn 1806. Derbyniwyd yr eglwys gan gymanfa'r Annibynwyr yn 1814 a bu yntau yn weinidog arni weddill ei oes. Priododd yn 1790 â Jane Morgan o'r Brewis, a buont yn byw yn Ffonmon ac yn Nhrefflemin yn ddiweddarach. Bu farw 23 Tachwedd 1844, a chladdwyd ef wrth fur Bethesda'r Fro.

Y mae ei safle fel emynydd yn sicr, a chenir ei emynau pruddglwyfus (megis 'Adenydd fel c'lomen pe cawn,' etc.) gan yr holl enwadau. Cyhoeddodd i ddechrau Elegia (Trefecca, 1785), sy'n cynnwys marwnad ac emynau, a dau gasgliad bychan, sef Llais y Durtur yn y Wlad (Merthyr, 1812), a Perl mewn Adfyd (Merthyr, 1814). Y mae llawer o'u cynnwys yn ei gasgliad llawnach, Dyfroedd Bethesda (Caerdydd, 1824, ail arg. Merthyr, 1841). Ceir ychydig o emynau hefyd yn The Tear of Friendship (Caerdydd, 1817). Marwnad i Jones, Llan-gan, yw cynnwys y llyfryn olaf; canodd nifer o farwnadau eraill, megis honno i Peter Williams (Caerfyrddin, 1796), ac i'w briod, Cwyn yr Unig (Caerdydd, 1828). Y mae ei gân goffa enwog i John Williams, Sain Tathan, yn Dyfroedd Bethesda. Cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau a chofiant gan Thomas Rees, Abertawe, yn 1882.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.