WILLIAM
,
THOMAS
(
1717
-
1765
),
cynghorwr Methodistaidd, a gweinidog Annibynnol wedyn
;
g.
1717
, mab
melinydd
Melin Corrwg
,
Eglwysilan
,
Morgannwg
. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth
Howel
Harris
,
c.
1738
. Bu'n
ysgolfeistr cylchynol
, dechreuodd gynghori gyda'r
Methodistiaid
, ac apwyntiwyd ef yn
arolygwr y seiadau
ym
Mro Morgannwg
yn
1743
. Yr oedd yn un o'r rhai a arwyddodd y neges i'r sasiwn yn
1745
ynghylch ordeinio'r cynghorwyr; cafodd ef a'i gyfaill
William
Edwards
[q.v.]
ryw fath o urddiad tua'r un amser gan seiat y
Groes-wen
. Cadwodd ei gyswllt â'r
Methodistiaid
, a bu'n ŵr ar ddeheulaw
Harris
ym mlynyddoedd cyntaf y rhwyg rhyngddo a
Daniel
Rowland
. Diarddelwyd ef o blaid
Harris
yn
1752
, ac enciliodd gyda seiat y
Groes-wen
at yr
Annibynwyr
. Bu f. ar daith bregethu yng
Nghwm Rhondda
,
16 Rhagfyr 1765
, a'i gladdu ym mynwent y
Cymer
.
Llyfryddiaeth:
-
Y Tadau Methodistaidd
, 1895
, i, 228;
-
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, ii, 375-80;
-
T. Thomas
,
Hanes Ymneilltuaeth Gynnar yn y
Watford
, 12;
-
Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid
Calfinaidd
, iv, 41; vi, 14; xxi, 109;
-
R. Bennett
,
Methodistiaeth Trefaldwyn Uchaf,
1738–1852
, 1929
, 217;
-
Cardiff Manuscript
4877.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe