WILLIAM
,
THOMAS
(
1697
-
1778
),
Mynydd-bach
,
gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur
;
g. yn
1697
, a threuliodd ei oes ymron yn
Nhŷ'rbedw
, ar y
Mynydd-bach
, ym mhlwyf
Llandeilo-fawr
,
sir Gaerfyrddin
, ond dywed tystiolaeth ddiweddar nad gŵr o'r fro honno ydoedd.
Gwehydd
ydoedd wrth ei grefft, ond yr oedd yn ddyn o ddiwylliant uwch na'r cyffredin. Ymaelododd yng
Nghapel Isaac
, neu
eglwys y Mynydd-bach
fel y gelwid hi, yn
1715
, a neilltuwyd ef yn
ddiacon
yno ar
1 Medi 1734
. Dechreuodd
bregethu
'n fuan wedyn, ac ar
5 Ebrill 1744
caniatawyd iddo drwydded i hynny gan sesiwn chwarter
Caerfyrddin
. Yn
1724
cyhoeddodd gronicl o ddigwyddiadau wrth yr enw
Oes-lyfr
, yn dair rhan. Caed ail argraffiad yn
1768
, ac o leiaf dri arall wedi marw'r awdur, gan ychwanegu ato. Yr oedd hefyd yn awenydd gwych, ac argraffodd nifer o lyfrynnau eraill, yn cynnwys tri argraffiad (
1727
,
1766
,
1767
) o
Gwaedd Ynghymru yn wyneb pob Cydwybod
, ynghyd a
Llythur ir Cymru Cariadus
o waith
Morgan
Llwyd
,
Dammegion Iesu Grist ar Gan
,
1761
, o waith ei gydymaith
Joseph
John
, ac yn
1771
gyfieithiad
Henry
Evans
o'r
Bedwellty
o
Cynghorion Tad i'w Fab
. Wedi bod yn ŵr ei ddeheulaw i
John
Harries
dros gyfnod ei weinidogaeth yn y
Mynydd-bach
(
1724-1748
), ordeiniwyd ef yn
weinidog
ar yr eglwys yn
1757
, a llafuriodd yn ddiwyd yn y maes hwn hyd ei f.
12 Mehefin 1778
. Claddwyd ef yn
Llanfynydd
. Ymddengys mai ef oedd
ysgrifennydd ei eglwys
, oherwydd ceir cofnodion am lawer blwyddyn yng ngwaith ei law yn hen lyfr eglwys y
Mynydd-bach
sydd yn awr yng nghadw yn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
.
Llyfryddiaeth:
-
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, iii, 540-1;
-
W. Rowlands
,
Llyfryddiaeth y Cymry
, Llanidloes,
1869
.
Awdur:
Y Parchedig Ddr. Evan Lewis Evans, D.Th., (1898-1978), Pontarddulais /
Abertawe