WILLIAMS
,
TALIESIN
(‘
Taliesin ab Iolo
’;
1787
-
1847
),
bardd ac awdur
;
mab
Edward
Williams
(‘
Iolo Morganwg
’) [q.v.]
. Fe'i g. yn ôl traddodiad
Bro Morgannwg
yng
ngharchar Caerdydd
ar
9 Gorffennaf 1787
, a bedyddiwyd ef yn
Nhrefflemin
16 Medi
. Cafodd ei addysg mewn ysgol yn y
Bont-faen
, ac yna bu'n gweithio gyda'i dad fel
saer maen
a
thriniwr cerrig beddau
. Bu'n
cadw ysgol
yn
Silston
(
Gileston
), a thua
1813
cafodd le fel
athro cynorthwyol
mewn ysgol a gedwid gan y
Parch.
David
Davis
[q.v.]
yng
Nghastell Nedd
. Yn
1816
,
agorodd ysgol
ym
Merthyr Tydfil
, ac yno y bu hyd ei f.,
16 Chwefror 1847
; claddwyd yn
Nhrefflemin
. Ychydig a wyddom am ei weithgarwch llenyddol yn ei ieuenctid, ac y mae'n ffaith ddigon rhyfedd mai ychydig o ddiddordeb a gymerai yn hanes a llenyddiaeth
Cymru
nes iddo ddyfod i gysylltiad a hyrwyddwyr y cymdeithasau taleithiol, a hynny tua
1820
. Bu wedi hynny'n ffigur amlwg ym mywyd
Cymreig
Merthyr Tydfil
, yn yr eisteddfodau a gynhelid yno yn ogystal ag yn y rhai a drefnid gan y cymdeithasau taleithiol a chan
Gymreigyddion y Fenni
. Bu'n cynorthwyo ei dad i gyhoeddi
Cyfrinach Beirdd ynys Prydain
, a ddaeth allan o'r wasg yn
1829
. Ef a gafodd lawysgrifau ei dad, a bu wrthi am flynyddoedd yn rhoi trefn arnynt, ac yn eu rhwymo'n gyfrolau. Fe'u hastudiodd yn ofalus, a chasglodd ddetholion ohonynt, casgliad a gyhoeddwyd gan
The Welsh MSS. Society
yn
1848
o dan y teitl,
Iolo Manuscripts
. Yn
1838
, enillodd wobr yn
eisteddfod y Fenni
am draethawd ar ‘
Hynafiaeth ac Awdurdodaeth Coelbren y Beirdd
,’ traethawd a gyhoeddwyd yn
1840
. Llwyddodd i ddarbwyllo'r rhan fwyaf o'i gyfoeswyr nad ffug diweddar mo'r egwyddor ‘dderwyddol’ hon. Cyhoeddodd ddwy gân
Saesneg
; sef
Cardiff Castle
,
1827
, a
The Doom of Colyn Dolphyn
,
1837
, gyda nodiadau ar hanes
Morgannwg
. Y mae ganddo hefyd gerddi
Cymraeg
, ac enillodd y
gadair
yn
eisteddfod Caerdydd
yn
1834
am awdl ar y
Derwyddon
. Gadawodd draethodau ar ei ôl, a chyhoeddwyd un ohonynt yn
1886
, sef
Traethawd or Gywreinedd, Hynafiaeth a Hen Bendefigion Glynn Nedd
. Nid oes dim camp ar ei waith fel
bardd
, a chan ei fod yn derbyn popeth a welai yn llawysgrifau ei dad fel gwirionedd na ellid mo'i amau, y mae ei nodiadau hanesiol yn gymharol ddiwerth. Llwyddodd ei dad i gadw ei gyfrinach fawr rhagddo. Dywaid ei gyfoeswyr ei fod yn wr hoffus, siriol, a chyfeillgar, a bu'n hynod lwyddiannus fel
ysgolfeistr
.
Mab iddo oedd
Edward
Williams
(
1826
-
1886
.
Llyfryddiaeth:
-
Enwogion Cymru. A Biographical Dictionary of
Eminent Welshmen
, 1852
;
-
Y Wawr sef cylchgrawn misol y Bedyddwyr
Cymreig yn America
, Utica
,
1853
, 114-5;
-
Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion
Cymru
, 1870
;
-
Y Gwyddoniadur Cymreig
, 1889–96
.
Awdur:
Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963),
Gwaelod-y-garth, Caerdydd