WILLIAMS, ROBERT ('Trebor Mai'; 1830 - 1877), bardd

Enw: Robert Williams
Ffugenw: Trebor Mai
Dyddiad geni: 1830
Dyddiad marw: 1877
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Alfred Owen Hughes Jarman

Ganwyd 25 Mai 1830 yn Nhŷ'n-yr-ardd ger Llanrhychwyn, Sir Gaernarfon, yn fab i deiliwr. Addysgwyd ef mewn ysgoldy-lleol yn Llanrhychwyn ac am ysbaid yn ysgol rad Llanrwst. Pan oedd yn 13 oed symudodd ei deulu i fyw i Lanrwst a dechreuodd yntau ddilyn crefft ei dad. Wedi priodi, 13 Hydref 1854, agorodd ei fusnes ei hun fel teiliwr yn yr un dref, ac yno y treuliodd weddill ei oes.

Cyn hyn derbyniasai beth hyfforddiant mewn cyfansoddi barddoniaeth gan 'Caledfryn,' a oedd ar y pryd yn weinidog yn Llanrwst. Parhaodd yn edmygydd o 'Caledfryn' ar hyd ei oes, ac yn 1863 gwrthododd gefnogi'r 'Gwrthdystiad' yn erbyn llymder ei feirniadaethau eisteddfodol.

Cyhoeddodd ddau lyfryn o farddoniaeth, sef Fy Noswyl, 1861, ac Y Geninen, 1869. Enillodd glod mawr fel englynwr, ac yn y casgliad o'i waith barddonol a gyhoeddwyd yn 1883 ceir dros 1,000 o englynion yn ogystal â 50 o ganeuon mewn mesur rhydd, un awdl, a nifer o gywyddau ac o hir a thoddeidiau. Ymhlith ei gyfeillion llenyddol yr oedd 'Gwilym Cowlyd,' 'Dewi Arfon' a 'Scorpion.' Bu'n aelod gyda'r Annibynwyr am beth amser ond ymunodd wedyn a'r Eglwys Wladol.

Bu farw 5 Awst 1877 a chladdwyd yn Llanrwst.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.