WILLIAMS
,
ROBERT
(‘
Robert ap Gwilym Ddu
’;
1766
-
1850
),
bardd
;
g.
6 Rhagfyr 1766
, unig blentyn
William
Williams
a
Jane
(
Parry
)
o'r
Betws Fawr
, ffermdy ym mhlwyf
Llanystumdwy
. Tebyg mai yn un o ysgolion y gymdogaeth y cafodd addysg gyffredinol, ac mai gan rai o feirdd
Eifionydd
y dysgodd gelfyddyd barddoniaeth. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn
amaethwr
cyfrifol, ond cafodd hamdden i ddilyn diddordebau megis
llenyddiaeth Gymraeg
,
diwinyddiaeth
,
cerddoriaeth
, a
hynafiaethau
. Daeth ei gartref yn gyrchfa
Cymry
diwylliedig, ac adwaenid ef yng
Ngwynedd
fel
bardd
a gŵr gwybodus ac annibynnol ei farn. Yr oedd
Robert
Williams
tua 50 oed pan briododd â merch ifanc a wasnaethai (mae'n debyg) mewn plasty cyfagos. Ganed iddynt un ferch,
Jane Elizabeth
, ond bu hi farw yn
1834
yn 17 oed. Un o alarnadau dwysaf yr iaith yw'r awdl a ganodd ei thad ar ei hôl. Yr oedd
Robert
yn gyfeillgar â beirdd yr eisteddfod, ond ni fynnodd gystadlu wedi'r un tro y collodd y wobr. Dywedwyd ar gam iddo ennill mewn eisteddfod arall. Bu'n gyfaill ffyddlon i
J. R.
Jones
,
Ramoth
[q.v.]
, a bu'n cynorthwyo'r gŵr hwnnw i
gyhoeddi llyfrau emynau
. Coffeir ei gysylltiad ef a
‘
Dewi Wyn
’ [q.v.]
, ei gymydog a'i gynddisgybl, â'r lle yr addolent, gan yr enw ‘
Capel y Beirdd
.’
Bardd crefyddol
oedd ef yn bennaf, a'i brofiadau crefyddol a'i symbylodd ef amlaf i ganu, ond ni chymerodd
Robert
Williams
mo'i fedyddio, ac ni fu'n aelod eglwysig. Ychydig cyn diwedd ei oes symudodd ef a'i wraig i dŷ a elwid
Mynachdy Bach
, ac yno y bu f.
11 Gorffennaf 1850
yn 83 oed. Claddwyd ef ym mynwent
Abererch
, ger
Pwllheli
.
Fel crefftwr yn y canu caeth yr oedd ‘
Robert ap Gwilym Ddu
’ yn llinach beirdd gorau'r hen
draddodiad, ac y mae rhai o'i englynion yn emau pur. Dysgodd lawer gan
Oronwy
Owen
, ond yr oedd hefyd yn ddyledus i draddodiad ei fro ei hun. Yn ei emynau cyfunodd ef grynoder y canu caeth ac asbri telynegol emynwyr y 18fed g. Ei emyn mwyaf adnabyddus yw ‘
Mae'r gwaed a redodd ar y groes
.’
Llyfryddiaeth:
-
Gardd Eifion. Casgliad o Waith Barddonawl…
, 1841
,
1841
(ail arg.,
1877
);
-
Lloffion yr Ardd barddoniaeth
anghyhoeddedig Robert ab Gwilym Ddu, y bardd Teuluaidd
, Pwllheli, 1911
(‘Cybi’),
1911
;
-
S. J. Williams
,
Robert ap Gwilym Ddu, Detholion o'i Weithiau
, Caerdydd,
1948
,
1948
;
-
Y Traethodydd
,
1852
;
-
Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion
Cymru
, 1870
;
-
Y Gwyddoniadur Cymreig
, 1889–96
.
Awdur:
Yr Athro Stephen Joseph Williams, D.Litt., (1896-1992), Abertawe.