WILLIAMS, RICHARD ('Dryw Bach '; 1790 - 1839), bardd a datganwr

Enw: Richard Williams
Ffugenw: Dryw Bach
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1839
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a datganwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Pant y Gerddinen, plwyf Aberdâr. Enillodd wobrwyon am farddoniaeth - am awdl i'r ' Goleuni,' ac englynion ar ' Pont Pontypridd '; yr oedd yn ail orau yn eisteddfod Caerdydd, 1834, am englynion ar y testun, ' Ardalydd ac Ardalyddes Bute.' Testun ei ymgais lwyddiannus olaf oedd ' Priodas William Williams, Ysw., Aberpergwm.' Enillodd hefyd rai gwobrau am ddatganu. O ran galwedigaeth, ffermwr, arwerthwr, a masnachwr gwlan ydoedd. Bu farw, yn Pant y Gerddinen, 20 Mehefin 1839.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.