WILLIAMS, JOHN OWEN, ' Pedrog,' (1853 - 1932), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a bardd

Enw: John Owen Williams
Ffugenw: Pedrog
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1932
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Idwal Lewis

Efe oedd yr ieuengaf o bedwar o blant Owen a Martha Williams; ganwyd yn y Gatws, Madryn, Sir Gaernarfon, 20 Mai, 1853, a'i fedyddio yn eglwys Llanfihangel Bachellaeth. Bu farw ei fam 26 Rhagfyr 1859, a chollodd ei dad yn gynnar. Pan oedd yn ddwy flwydd oed fe'i cymerwyd ef i fod dan ofal ei fodryb Jane Owen, chwaer ei dad, yn Llanbedrog. Prin oedd y manteision addysg a gafodd yn ysgol y Llan, a dechreuodd weithio pan oedd yn 12 oed. Yr oedd yn brentis o arddwr yn y Gelliwig pan oedd yn 16 oed ac oddi yno aeth i erddi Dickson, Caer, ac yn ddiweddarach i erddi Plas Machynlleth, ac yn ôl drachefn i Gaer. Yn 1876, symudodd i Lerpwl ac am wyth mlynedd bu'n gweithio ym masnachdy William Williams, Button Street. Pan oedd yn 25, cymhellwyd ef i ddechrau pregethu, a gwasnaethodd y pulpud Wesleaidd am bedair blynedd fel pregethwr cynorthwyol. Yn 1881, ymaelododd gyda'r Annibynwyr yn eglwys Kensington, Lerpwl, a thair blynedd yn ddiweddarach ordeiniwyd ef yn weinidog yr eglwys honno, a bu yno hyd nes iddo ymddiswyddo oherwydd afiechyd yn 1930. Bu'n amlwg fel pregethwr a darlithydd, ac yn 1928-9 efe oedd cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Efe oedd golygydd Y Dysgedydd, cylchgrawn yr enwad, o 1922 hyd 1928.

Fel bardd a llenor y sonnid amdano amlaf ac y cofir amdano fwyaf, bardd a llenor wrth natur a ddaeth yn un o brif feirdd ei genedl. Enillodd lu o wobrwyon pwysig. Yn eisteddfod Porthmadog yn 1887 y daeth gyntaf i sylw drwy ennill y gadair yno am awdl ar 'Ffydd,' ac yna fe enillodd dlws aur yn eisteddfod Utica yn 1889. Cafodd y gadair genedlaethol yn Abertawe (1891), Llanelli (1895), Lerpwl (1900). Wedi hynny bu'n un o'r prif feirniaid ar hyd y blynyddoedd yn yr eisteddfod genedlaethol. Ysgrifennodd lawer i'r Wasg, yn enwedig i'r Brython, ac yr oedd yn y rheng flaenaf fel sgrifennwr erthyglau yn y newyddiaduron. Efe oedd yr archdderwydd o 1928 hyd 1932. Yn 1917, anrhydeddwyd ef gan Brifysgol Cymru â'r radd o M.A. Cafodd ddwy dysteb genedlaethol, un yn 1917 yn Lerpwl, ac un yn Llundain yn 1930, mewn cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion. Bu farw ei briod Rose Ellen Williams 21 Mehefin 1916. Bu iddynt bump o blant, dau fab a thair merch. Bu farw 9 Gorffennaf 1932 yn Lerpwl a'i gladdu yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.