Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , MOSES (bu f. 1819 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol Trindodaidd, a gof ; brodor o Lanfynydd ( Caerfyrddin ), ond yn Llandyfân y bedyddiwyd ef, ac y dechreuodd bregethucyn 1792 , gellid meddwl. Ni ddygymyddai â Chalfiniaeth nac â thueddiadau ‘ Methodistaidd ’ y mwyafrif o'i gyd- Fedyddwyr ; fe'i gwelir yn 1794 , a thrachefn yn 1796 ( Traf. Cymd. Hanes Bed. , 1930 , 39 a 40) yn ochri yn y ‘cwrdd chwarter’ â'r blaid aswy, gan ddal (megis J. R. Jones o Ramoth [q.v.] ) mai crediniaeth noeth yw ‘ffydd.’ Yn 1797 , urddwyd ef yn weinidog Llandyfan , ac yn 1798 plannodd eglwys arall ym Mhontbren-araeth ym mhlwyf Llangadog . Pan ddaeth rhwyg 1799 , aeth ef a'i ddwy eglwys allan o gymanfa'r Bedyddwyr Neilltuol , eto gan barhau'n Drindodwyr ; croesawodd Williams ddyfodiad y genhadaeth Wesleaidd Gymraeg i'r ardaloedd hynny, a gwelir ef yn 1806 ( Hist. Carms. , ii, 253) yn pregethu yn y capel Wesleaidd yng Nghaerfyrddin . Pregethodd yng nghymanfa'r Bedyddwyr Cyffredinol yng Nghastellnewydd Emlyn fis Mai 1807 ( Monthly Repository , 1807 , 333), ond y mae'n eglur yn 1809 (ibid., 1809 , 695) mai ‘ John Griffiths ’ oedd ar y blaen erbyn hynny yn Llandyfân — am hwn, ac am hanes diweddarach yr achos ( Undodaidd bellach) yno, gw. T. Oswald Williams yn Ymofynnydd 1930 , 41-6. Bu cenhadaeth egnïol Griffiths yn ddraen yn ystlys Williams , a phrofodd ei arswyd rhag Undodiaeth yn drech na'r cymhellion a'i harweiniodd gynt i ymado a'r Bedyddwyr Calfinaidd . Derbyniwyd ef yn ôl i'w hen enwad yng ‘nghwrdd chwarter’ y Pasg, 1814 , yn y Felin-foel ; a dilynwyd ef ( 1815 ) gan y mwyafrif yn Llandyfan . Nid ymddengys iddo barhau i bregethu (yn sicr, ni bu ganddo ofalaeth wedyn); ymgynhaliai ar ei grefft fel gof gerllaw Abertawe . Bu f. fis Rhagfyr 1819 ; canmolir ef fel gŵr ‘ pwyllog, cydwybodol, a duwiol .'

Llyfryddiaeth:

  • D. Jones , Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru , 1839 , 346, 362-3;
  • a'r cyfeiriadau eraill uchod.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor