WILLIAMS, MORGAN (c. 1750 - 1830), clerigwr

Enw: Morgan Williams
Dyddiad geni: c. 1750
Dyddiad marw: 1830
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Rhiannon Francis Roberts

Awdur Collectanea: neu Gasgliadau o Flodeuog-Waith yr Awduron Brytanaidd … Yn Ddau Lyfr (Caerfyrddin, 1820, 1823). Dichon mai ef yw'r ' Morgan Williams of Penderin ' a ordeiniwyd yn ddiacon 14 Awst 1774 ac yn offeiriad 6 Awst 1775; os felly cafodd guradiaeth Aberedw, sir Faesyfed, yn 1775, a churadiaeth y Faenor a Thaf-fechan, sir Frycheiniog, yn 1788. Fel curad Bayvil, Sir Benfro, yr adwaenir ef orau; yr oedd hefyd yn gurad Eglwyswrw yn yr un sir. Bu farw yn y Quarry gerllaw Eglwyswrw yn 80 oed, a chladdwyd ef yn y plwyf hwnnw 14 Mehefin 1830.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.