WILLIAMS o'r MARL (Conwy)

Cainc o deulu Cochwillan (J. E. Griffith, Pedigrees, 186-7); ac felly o deulu Penrhyn. Mabwysiadwyd y cyfenw 'Williams' gan y William ap William ap Gruffydd o Gochwillan y profwyd ei ewyllys yn 1559; profwyd ewyllysiau ei fab a'i ŵyr (o'r un enw) yn 1610 a 1622. Dietifeddodd y diwethaf ei aer, ac aeth ei diroedd i deulu ei frawd EDMUND WILLIAMS o Gonwy (a fu farw ddechrau 1601) - dyma gychwyn y llinach a adwaenir yn ddiweddarach fel ' Williams o'r Marl.' Meibion i Edmund Williams oedd ROBERT WILLIAMS, o Ben'rallt yng Nghonwy, a'r archesgob John Williams (1582 - 1650). Mab i Robert Williams oedd Syr GRIFFITH WILLIAMS, a fu farw yn 1663; cafodd ef stad ei ewythr yr archesgob, ac urddwyd ef yn farwnig yn 1661. Ei aer, yr ail farwnig, Syr ROBERT WILLIAMS, oedd perchen Penrhyn a Chochwillan, ond bu ei ddau fab ef (y 3ydd a'r 4ydd barwnig) farw'n ifainc; aeth tiroedd Penrhyn a Chochwillan i'w chwiorydd hwy, ond treiglodd y farwnigiaeth i'w hewythr Syr HUGH WILLIAMS (1628 - 1686), y 5ed barwnig a pherchen tiroedd yng nghyffiniau Conwy y gellir eu hystyried yn gnewyllyn stad y Marl. Efe yn wir a gododd blasty'r Marl; ei wraig oedd Anne Vaughan o'r Pant Glas yn Ysbyty Ifan (gweler dan 'Vaughan o'r Pant Glas'), a thrwyddi hi y chwanegwyd stad y Pant Glas at stad y Marl. Mab i'r ddeuddyn hyn oedd Syr GRIFFITH WILLIAMS (a fu farw yn 1734), y 6ed barwnig; priododd ef â Catherine Anwyl o'r Parc (Llanfrothen) a'r Llwyn (Dolgellau) - gweler yr ysgrif ar yr Anwyliaid - ond gan fod stadau'r teulu hwnnw mewn dyled, y mae'n amheus iawn a elwodd y Marl ryw lawer. Dau o blant y briodas hon a fu fyw i oed. Bu Syr ROBERT WILLIAMS, y 7fed barwnig, farw'n ddi-briod yn 1745, a threiglodd y farwnigiaeth wedyn i'w geraint, teulu Williams-Bulkeley (J. E. Griffith, op. cit., 43), ond aeth y tiroedd i'w chwaer ANNE WILLIAMS (PRENDERGAST), na wyddys pa bryd y ganwyd hi. Gwnaeth hi gryn sôn amdani. Edrychid arni fel aeres gyfoethocaf Gwynedd; sut bynnag am hynny (a chofio dryswch stadau'r Parc), yr oedd hi'n afradlon y tu hwnt. Bu am gyfnod yn un o ' foneddigesau llys ' y frenhines Caroline, ac y mae traddodiad cryf (na ellir er hynny brofi ei ddilysrwydd) iddi ddyfod yn gariadferch i'r dug Cumberland ac yn wir gael mab ganddo - mab a fagwyd ganddi dan yr enw 'William Roberts.' Ond sut bynnag am y 'garwriaeth,' tystia cofrestr plwyf Conwy, dan 10 Mehefin 1742, mai mab oedd William Roberts i Syr Robert Williams, 'o'i ordderch-wraig Margaret Roberts.' Yn 1739, priododd Anne â Syr Thomas Prendergast, o Iwerddon; anhapus fu'r briodas, a bu'n rhaid gwerthu tiroedd yn herwydd gwastraff Anne, meddir. Bu Syr Thomas farw fis Medi 1760, ac yn gynnar yn 1761 ailbriododd Anne â chefnder iddo, Terence Prendergast. Aeth y briodas hon eto'n dipiau; gwerthwyd y Parc a'r Llwyn ac yn 1762 aeth Anne (a William Roberts) i fyw yn hendre ei nain yn y Pant Glas, gan adael y Marl i'w gŵr. Bu hi farw'n dlawd, 15 Rhagfyr 1770, yn Nant Gwilym, Bodfari; claddwyd yn eglwys Rhos. Bu William Roberts am hir yn ymgyfreithio â'r Prendergastiaid; priododd ddwywaith a chafodd lawer o blant; daeth yn swyddog yn y Llynges; a bu farw'n ddisyfyd yn Llundain yn 1791. Eisoes cyn 1774 yr oedd wedi gwerthu stad y Pant Glas i Lwydiaid Penbryn (h.y. teulu Mostyn; gweler yr ysgrif arnynt). Tynasant hwythau ran o blasty Pant Glas i lawr, i godi hafoty Plas Glasgwm ym Mhenmachno; ar noson ystormus tua 1790 cwympodd y gweddill yn chwalfa. Bu Terence Prendergast farw yn 1776, gan adael yr hyn a achubwyd o'i diroedd i'w frawd Jeffrey Prendergast; aeth hwnnw i America a phrynwyd y stad gan Thomas Williams o Lanidan ac wedyn gan y Mostyniaid. Gwerthodd y Mostyniaid stad y Pant Glas i Pennant o'r Penrhyn, tua chanol y 19eg ganrif - erbyn heddiw, y mae'n eiddo i'r wladwriaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.