WILLIAM, LODWICK (fl. 1689?), ysgrifennwr anterliwdiau

Enw: Lodwick William
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennwr anterliwdiau
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Meddygaeth; Perfformio
Awdur: Hywel David Emanuel

awdur Sherlyn Benchwiban, anterliwt a gyhoeddwyd yn 1802 gan Morgan Rees. Dichon fod nifer o weithiau Lodwick William ym meddiant Morgan Rees, ond hwn ydyw'r unig ddarn yr ymddengys iddo ei gyhoeddi. Ychydig o fanylion sydd i'w cael am fywyd yr awdur, ond yn ei anterliwt ceir cyfeiriadau at bersonau a digwyddiadau sydd yn awgrymu mai tua 1689 y cyfansoddwyd hi. Ar wyneb-ddalen argraffiad 1802 dywedir mai gŵr o ' Glanllwchwr, Llandybïe ' oedd yr awdur. Ffermdy ym mhlwyf Llandybïe, Sir Gaerfyrddin, oedd ' Glanllwchwr ' (neu ' Cwmllwchwr'). Ymddengys fod Lodwick William yn feddyg o gryn fri, a dywed traddodiad poblogaidd ei fod hefyd yn ymwneud â dewiniaeth. Yn ôl awdurdodau eraill, fodd bynnag, brodor o'r Bala neu o Geredigion ydoedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.