Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAM(S) , LEWIS ( 1774 - 1862 ), yr hynotaf o athrawon ysgolion cylchynol Charles o'r Bala ; g. yn 1774 yn Gwastadgoed , Pennal , yn fab i William a Susan Jones ; tlodion oedd ei rieni, a bu'r tad f. pan nad oedd Lewis ond pedair oed, gan adael y fam heb fawr gymorth ond y plwyf. Yn 16 oed, ymunodd Lewis â milisia'r sir ; bu wedyn yn brentis i grydd yng Nghemaes , Maldwyn , ac yno y trowyd ef at grefydd, yn 18 oed. Galwyd ef yr eilwaith i'r milisia , a bu yn Dover a Penzance . Wedi ei ryddhau, aeth i weithio ar ffermydd . Gan ymdeimlo ag anwybodaeth gwerin yr ardal, cychwynnodd ysgol yn Llanegryn , serch na fedrai ef ei hunan ddarllen — ceisiai help i ddysgu'r wers at ddaliad nesaf ei ysgol. Clywodd Thomas Charles amdano, a mynnodd ei weld; trefnodd iddo gael chwarter blwyddyn o ysgol, ac yna penododd ef yn athro llog (am £3 y flwyddyn, a gododd wedyn i £4) yn ei ysgolion cylchynol. Bu wrthi, yma a thraw yng nghantref Meirionnydd , am 25 mlynedd; ymysg ei ddisgyblion gellir enwi Mary Jones (y ferch a gafodd Feibl gan Charles ) a Roger Edwards [q.v.] . Dysgai ddarllen Cymraeg , rhyw gymaint o rifyddeg, ac ambell dro ryw gymaint o Saesneg ; anfonai adroddiadau manwl o'i waith. Cymerai ei ran hefyd yng ngwaith yr ysgol Sul , ac yn 1807 dechreuodd gynghori — cydnabuwyd ef yn bregethwr rheolaidd gan ei gyfarfod misol yn 1815 . Ar un adeg ( 1812 ) yr oedd yng ngwasanaeth rheolwyr ysgolion Madam Bevan , yn cadw eu hysgol yn Llangelynnin , a chafodd gynnig mynd yn un o'u hathrawon parhaol, ond gwrthododd, am na fynnai symud i'r Deheudir. Priododd yn 1819 , ac yn 1824 aeth ef a'i wraig i fyw yn y tŷ-capel yn Llanfachreth ger Dolgellau . Bu f. 14 Awst 1862 , yn 88 oed. Disgrifir ef fel ‘bychan ei gorff, bychan ei enaid, bychan ei ddoniau’; ond yr oedd ei ffyddlondeb a'i weithgarwch yn eithriadol.

Llyfryddiaeth:

  • R. Owen , Ysgolfeistriaid Mr. Charles o'r Bala , Dolgellau, 1898 , 127-48 (gyda darlun ohono).

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor