WILLIAMS, ISAAC JOHN (1874 - 1939), ceidwad amgueddfeydd

Enw: Isaac John Williams
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1939
Priod: Beatrice Lily Williams (née Summers)
Priod: Annie Williams (née Summers)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ceidwad amgueddfeydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Archibald Henry Lee

Ganwyd ym Merthyr Tydfil, 10 Ebrill 1874, a bu farw yng Nghaerdydd, ddydd Nadolig 1939. Wedi ennill medal y ' Cardiff School of Art,' bu'n athro mewn celfyddyd mewn ysgolion, ac o 1910 hyd 1914 yn arolygydd, athro celfyddyd, a cheidwad, yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa, Merthyr Tydfil. Yn 1914 penodwyd ef yn geidwad y celfyddydau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac efe a osododd sylfeini'r casgliad o weithiau celfyddyd yno.

Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf ag Annie Summers; wedi ei marw hi (1932) priododd â Beatrice Lily (Summers), chwaer-yng-nghyfraith iddo.

Gadawodd £3,500 ('The Isaac and Annie Williams Bequest Fund') i'r Amgueddfa Genedlaethol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.