Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , GRIFFITH JOHN ( 1854 - 1933 ), ysgolfeistr, daearegwr, a hynafiaethydd ; g. 16 Rhagfyr 1854 yn Hen Dy Capel , Rhiwbryfdir , Blaenau Ffestiniog (nid yn Tanygrisiau fel y dywed J. Lloyd Williams — gw. isod), un o bum plentyn John Williams , Rhiwbryfdir (brawd Griffith Williams [q.v.] , Talsarnau ), a'i wraig. Wedi gadael yr ysgol bu G. J. Williams yn gweithio fel rybelwr bach ym Melin Holland , chwarel Oakeley , Blaenau Ffestiniog . Byr fu ei arhosiad yno gan iddo fynd i Goleg Normal Bangor . Bu wedyn yn athro ysgol yng Nghorwen ( 1876 ) ac yn Nhanygrisiau , ac yn brifathro'r ysgol Frutanaidd , Blaenau Ffestiniog , cyn cael ei ddewis yn 1883 yn brifathro 'r Higher Grade School yno. Yn ei oriau hamdden cymerai ddiddordeb mewn daeareg ; yn 1891 cyhoeddodd bamffled yn cynnwys ffrwyth ei ymchwil i ddaeareg mynyddoedd Manod , Moelwyn Mawr , a Moelwyn Bach , a chafodd wobr o gronfa'r Geological Society ; yn 1895 penodwyd ef yn arolygydd cynorthwyol mwyngloddiau yng Ngogledd Cymru ac Iwerddon (o dan y Dr. Le Neve Foster ). Cyhoeddwyd ei Hanes Plwyf Ffestiniog , llyfr sydd yn parhau i fod yn ddefnyddiol, yn 1882 . Priododd, Mai 1881 , â Mary Helena (bu f. 1916 ), merch Daniel Howell , Melin Gellidywyll , Llanbrynmair ; bu iddynt saith o blant. Bu f. 3 Chwefror 1933 a chladdwyd ym mynwent Glanadda , Bangor .

Llyfryddiaeth:

  • Syr Wynn P. Wheldon , yn The Welsh Outlook Monthly Journal of National Social Progress , 1914-1933 , Ebrill 1933 ;
  • J. Lloyd Williams , yn Y Traethodydd , Ionawr 1941 .

Awdur:

John William Jones, (1884-1954), Blaenau Ffestiniog