WILLIAMS
,
Syr
JOHN
(
1840
-
1926
),
barwnig, meddyg i'r teulu brenhinol, prif sylfaenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
;
g.
6 Tachwedd 1840
, yn
Bailey
,
Gwynfe
,
sir Gaerfyrddin
, trydydd mab
David
Williams
,
Blaenllynant
,
gweinidog
gyda'r
Annibynwyr
ac
amaethwr
, ac
Eleanor
ei wraig. Cafodd ei addysg mewn ysgol yn y pentref, yn y ‘
Normal
School
,’
Abertawe
(yr oedd â'i fryd ar fyned i'r weinidogaeth y pryd hwn), ac ym
Mhrifysgol Glasgow
(
1857-8
). Ar
20 Gorffennaf 1859
prentisiwyd ef gyda'r
meddygon
W. H.
Michael
ac
Ebenezer
Davies
,
Abertawe
; aeth i
University College Hospital
,
Llundain
, yn
1861
(
M.B.
,
1866
;
M.D.
,
1867
;
F.R.C.P.
). Dychwelodd i
Abertawe
i ddilyn ei alwedigaeth; yn
Abertawe
hefyd y dechreuodd
gasglu'r llyfrgell breifat
gyfoethog y daeth cymaint o sôn amdani yn nes ymlaen — sef y llyfrgell a oedd yn sylfaen casgliadau llyfrgell genedlaethol i
Gymru
. Priododd, yn
1872
, â
Mary Elizabeth Anne
, merch
Richard
Hughes
,
Ynystawe
, gerllaw
Abertawe
. Dychwelodd i
Lundain
cyn bo hir, gan ei gysylltu ei hun â'r ysgol feddygol a'r ysbyty y cafodd ei addysg ynddynt. Pan adawodd
Llundain
, maes o law, yr oedd yn
athro ‘emeritus’
Prifysgol Llundain
mewn bydwreigiaeth ac yn
feddyg ymgyngoniadol mygedol
yn yr un pwnc. Daeth hefyd yn enwog fel
meddyg
ymarferol wrth ei waith, a hyn, ynghyd â'i gysylltiad â'r gwaith yn
University College
, a barodd iddo o
1886
gael
gweinyddu ar y teulu brenhinol
, yn enwedig ar adeg geni'r plant. Daeth amryw fathau o anrhydeddau i'w ran — ei wneuthur yn
farwnig
gan y
frenhines
Victoria
yn
1894
, yn
K.C.V.O.
yn
1902
, a'i ddyrchafu i fod yn
G.C.V.O.
yn
1911
; cafodd ei anrhydeddu hefyd gan
frenin Denmarc
(‘
Grand Cross of Dannebrog
’); a rhoes rhai o'r prifysgolion eu graddau (‘er anrhydedd’) iddo —
LL.D.
(
Edinburgh
,
Glasgow
, ac
Aberdeen
), a
D.Sc.
Cymru
yn
1905
. Ar bwnc bydwreigiaeth y mae'r rhan fwyaf o'r papurau a gyhoeddodd.
Ymunodd
John
Williams
yn gynnar â'r gwŷr (yn
Llundain
ac yng
Nghymru
) a oedd yn gweithio dros fuddiannau
Cymru
a mudiadau
Cymreig
. Yr oedd yn
arloesydd y mudiad a drefnodd ysbyty Cymreig yn Ne Affrica
adeg
rhyfel y Boëriaid
a bu'n gweithio'n ddyfal hefyd gyda'r mudiad a
geisiai atal difrod y darfodedigaeth
yng
Nghymru
. Yr oedd yn un o sylfaenwyr ‘
Record Series
’
Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
. Yn
1903
dychwelodd i
Gymru
(
Plas Llansteffan
,
sir Gaerfyrddin
) er mwyn bod yn nes at y sawl a oedd yn llafurio yng
Nghymru
ei hunan gyda'r un amcanion ag yntau. Yr oedd ei
lyfrgell breifat
yn parhau i gynyddu ac yntau cyn hyn wedi sicrhau mai i'w feddiant ef y deuai'r llawysgrifau gwerthfawr a oedd yn
Peniarth
,
sir Feirionnydd
, pan fyddai'r perchenogion y ddeufrawd
W. R. M.
Wynne
ac
Owen Slaney
Wynne
(
gw. yr ysgrif ar y teulu
), farw. Yr oedd eisoes wedi penderfynu trosglwyddo'r llawysgrifau hyn a chynnwys ei lyfrgell ei hun i
Lyfrgell Genedlaethol Cymru
os sefydlid hi yn
Aberystwyth
. Yr oedd yn
llywydd
Coleg Prifysgol Cymru
,
Aberystwyth
ac yn cyd-weithio â phwyllgor
llyfrgell genedlaethol Gymreig
y coleg hwnnw. Pan benderfynodd is-bwyllgor o'r
Cyfrin Gyngor
a benodwyd gan y
Llywodraeth
(
1905
) mai
Aberystwyth
a gâi fod yn gartref i'r
Llyfrgell Genedlaethol
(a
Chaerdydd
i'r
Amgueddfa Genedlaethol
)
naturiol oedd enwi
Syr
John
Williams
(yn y starter frenhinol a gafwyd yn
1907
) yn
llywydd cyntaf llys llywodraethwyr y Llyfrgell
a oedd i gychwyn ei gyrfa yn
Aberystwyth
ar
1 Ionawr 1909
. Fel y digwyddodd daeth
llawysgrifau Peniarth
yn eiddo i
Syr
John
Williams
yn gyfan gwbl y mis hwnnw a throsglwyddodd yntau hwynt ar unwaith i'r sefydliad newydd. Parhaodd i fod yn
noddwr nodedig o haelionus
i'r sefydliad hyd adeg ei f.
24 Mai 1926
; cymynroddodd hefyd weddill ei gasgliad (sef pethau y dymunai ef eu cadw iddo'i hun yn ystod ei oes) a swm mawr o arian y trefnasai yn ei ewyllys fod y rhan fwyaf ohono i'w gadw dros byth er mwyn cynhyrchu incwm at dalu am ehangu adeiladau y
Llyfrgell Genedlaethol
. Symudasai o
Blas Llansteffan
i
Aberystwyth
yn gynnar ar ôl
1909
. Bu ei wraig farw yn
1915
. Claddwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus
Aberystwyth
.
Llyfryddiaeth:
-
Adroddiadau'r ‘Historical
Manuscripts Commission,’
,
Reports on Manuscripts in the Welsh
Language
. Historical Manuscripts Commission,
1898–1910
;
-
Who's who?
,
1927
;
-
W. Ll. Davies
,
The National Library of Wales
,
1937
;
-
Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
, i, 173-232;
- adroddiadau (printiedig) blynyddol y Llyfrgell (yn arbennig y cyntaf a'r ail);
- gwybodaeth bersonol;
-
Ruth Evans
,
John Williams 1840-1926
, Caerdydd,
1952
.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952),
Aberystwyth