WILLIAMS
,
JOHN
(‘
Ioan Mai
’;
1823
-
1887
),
bardd
;
g.
13 Mai 1823
yng
Nghaernarfon
fab i
Benjamin
a
Mary
Williams
. Addysgwyd ef yn yr
Ysgol Genedlaethol
yno, ac yna fe'i prentisiwyd i'r
Mri. W. Potter
,
llyfrwerthwyr
yng
Nghaernarfon
a
Phwllheli
. Tua
1847
agorodd
John
Williams
ei
siop lyfrau
ei hun yn
Bridge Street
,
Caernarfon
, ac er nad oedd ond glaslanc prin ei gyfleusterau, llwyddodd ar ei
union. Yr oedd yn
ddarllenwr
mawr iawn, a datblygodd
ddiddordebau llenyddol helaeth
a wnaeth iddo gyfeillion o'r
athrawon
Joseph
Loth
, o
Brifysgol Rennes
, ac
E. B.
Cowell
,
Caergrawnt
. Dywedir iddo gynorthwyo'r olaf gyda'i gyfieithiadau
Saesneg
o weithiau
Dafydd ap Gwilym
. Ysgrifennodd ‘
Ioan Mai
’ lawer o gerddi rhydd, rai ohonynt gogyfer â chystadleuthau eisteddfodol, ond er bod ei draethawd anorffenedig, ‘
The characteristics of Welsh poetry
,’ yn profi ei fod yn medru'r cynganeddion, ni sgrifennodd ond ychydig iawn yr y mesurau caeth. Cyfieithodd rai o gywyddau
Dafydd ap Gwilym
, a emynau
Ann
Griffiths
, ac o gerddi
‘
Ceiriog
,’
yn
Saesneg
. Bu'n
pregethu'n gynorthwyol
gyda'r
Wesleaid
am 47 mlynedd. Priododd â
Margaret
, unig ferch
Hugh
Hughes
,
Tynewydd
,
Trefriw
, a bu iddynt chwech o blant. Bu f.
14 Hydref 1887
, a chladdwyd ym mynwent
Llanbeblig
. Cyhoeddwyd detholiad o'i bregethau yn y gyfrol o'i waith a olygwyd gan
John Lloyd
Pierce
.
Llyfryddiaeth:
-
Gweithiau Ioan Mai sef Detholion o bregethau
a barddoniaeth … This volume also contains a selection of
poems and an essay on "The Characteristics of Welsh
Poetry", by the same author. Wedi eu trefnu a'u golygu gan
John Lloyd Pierce, yn nghyda byr-gofiant o'r awdwr
,
Porthmadog, 1891
(Porthmadog,
1891
).
Awdur:
Dr David Jenkins, C.B.E., M.A., D.Litt., (1912-2002), Penrhyn-coch,
Aberystwyth