WILLIAMS, JOHN ('Gorfyniawc o Arfon'; 1814 - 1878), cerddor

Enw: John Williams
Ffugenw: Gorfyniawc O Arfon
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1878
Rhiant: Thomas Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Nhalybont, ger Bangor, Sir Gaernarfon, mab i Thomas Williams, llifiwr coed. Dysgodd gerddoriaeth yn ysgol Robert Williams yn y Carneddi, Llanllechid. Yn 25 oed aeth i Lerpwl a chafodd wersi cerddorol gan Thomas Woodward, a dysgodd ddigon o'r iaith Hebraeg i allu darllen y Beibl ynddi. Cafodd le yn swyddfa cwmni'r nwy, a dringodd i fod yn brif ysgrifennydd y cwmni.

Yn 1847 dug allan (yn rhannau) Y Canrhodydd Cymreig, ond oherwydd anawsterau argraffu ni chafwyd ond pedair rhan. Yr un flwyddyn cyhoeddodd Gramadeg Cerddorol, ond trodd allan yn golled ariannol iddo. Yn 1849 trefnodd argraffiad newydd o Gramadeg Cerddoriaeth John Mills. Ysgrifennodd nifer o erthyglau ar gerddoriaeth i'r Gwyddoniadur Cymreig. Cyfansoddodd a threfnodd donnau i Telyn Seion (R. Beynon) a chasgliadau tonau Richard Mills a Seren Gomer. Gwasnaethodd fel beirniad yn y cylchwyliau, ac yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon, 1862.

Bu farw 27 Mawrth 1878 a chladdwyd ef ym mynwent Necropolis, Lerpwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.