WILLIAMS, JOHN ('Ioan ap Ioan'; 1800 - 1871), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur

Enw: John Williams
Ffugenw: Ioan ap Ioan
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1871
Priod: Eleanor Williams (née Hughes)
Rhiant: Jane Williams
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd yn y Trwyn-swch, Llanddoged, 1800, yn fab i John a Jane Williams, hyhi'n aelod gyda'r Bedyddwyr yn Llanrwst. Bedyddiwyd yntau yn Llanrwst, a dechreuodd bregethu 'n 25 oed yn y Cefnbychan, lle'r oedd ar y pryd yn cadw ysgol. Bu'n fyfyriwr yn y Fenni, 1828-31 a threuliodd rai misoedd ar brawf ym Mhenrhyncoch, ond o Aberduar y derbyniodd alwad, ac yno y bu weddill ei oes, o'i ordeinio, 29-30 Tachwedd, 1831, hyd ei farwolaeth 31 Rhagfyr 1871. Priododd yn Aberduar 13 Awst 1841, ag Eleanor Hughes, merch D. Hughes, Glandyforiog, Llanybyddair, a ganed iddynt ddau fab a phedair merch. Yn Aberduar hefyd y claddwyd ef. Gafodd weinidog aeth lwyddiannus - helaethwyd capel Aberduar, o fewn tair blynedd i'w ddyfodiad yno, a daeth yn boblogaidd drwy'r wlad yn rhinwedd ei ffraethineb a'i huodledd, ond erbyn heddiw fel bardd a chofiannydd y cofir amdano yn bennaf. Cyhoeddodd (1) Lloffyn y Prydydd , 1839, yn y mesurau caeth a rhydd, yn cynnwys cerddi ar destunau Beiblaidd, cymdeithasol, a lleol ynghyda marwnadau; (2) Cofiant … Dafydd Saunders, Merthyr, 1842; (3) Cofiant y Parch John Jones, Llandyssil , 1859; a (4) chofiant Benjamin Thomas, gweinidog y Bedyddwyr, Penrhiwgoch, yn Seren Gomer, 1860. Cyhoeddwyd cofiant iddo yntau gan J. Davies, Llandyssul, yn 1874.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.