Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , JOHN ( 1768 - 1825 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yng Nghymru ac U.D.A. ; g. 8 Mawrth 1768 yn Plas Llecheiddior , gerllaw Dolbenmaen , sir Gaernarfon . Symudodd yn ifanc i Rhwng-y-ddwyryd , Dolbenmaen . Dygwyd ef i fyny yn Eglwys Loegr , eithr gwrthododd dderbyn cynnig ei deulu i roddi cwrs o addysg glasurol iddo a dewis yn hytrach fyned i fasnach yng Nghaernarfon . Argyhoeddwyd ef o dan bregeth gan David Morris [q.v.] , Twrgwyn , pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd . Yn 1787 ymunodd ag eglwys Annibynnol a oedd a dan ofal y Dr. George Lewis [q.v.] , a'i hanogodd i ddechrau pregethu . Yn 1791 , fodd bynnag, cymerodd fedydd trwy drochi a daeth yn aelod o Horeb, eglwys y Bedyddwyr yn Garn Dolbenmaen ; yn fuan wedi hynny daeth yn weinidog yr eglwys honno. Teithiodd lawer trwy Gymru a daeth yn gyfaill personol i Christmas Evans [q.v.] . O dan anesmwythyd a achosid gan y chwyldro yn Ffrainc ymfudodd gydag amryw eraill i U.D.A. Glaniodd yn New York 25 Gorffennaf 1795 , ac er na fedrai fawr o Saesneg pan laniodd fe'i dewiswyd yn weinidog ar eglwys Saesneg yn Oliver Street yn y ddinas honno yn Awst 1798 a pharhaodd i weinidogaethu yn yr eglwys hyd ei f., 22 Mai 1825 .

Llyfryddiaeth:

  • Sketch of the Reverend John Williams , 1850 , 1850 ;
  • D. Williams , Cofiant J. R. Jones, Ramoth yn cynnwys casgliad helaeth o'i lythyrau , Caerfyrddin, 1913 , 192-203;
  • [ Y Cymmrodor , xlv, 139, 153].

Awdur:

Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor