WILLIAMS, JOHN (1760 - 1826), clerigwr ac ysgolfeistr

Enw: John Williams
Dyddiad geni: 1760
Dyddiad marw: 1826
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: William Llewelyn Davies

mab John Williams, goruchwyliwr stad Gwydir, Llanrwst. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 15 Mai 1777, yn 17 oed; B.A., 1781; M.A.; cymrawd o'r coleg). Ordeiniwyd ef 19 Medi 1784, a'i drwyddedu i wasnaethu yng nghapelwriaeth ysgol rad Llanrwst ac yn ' ddarlithydd '; yr oedd hefyd yn gurad Betws-y-coed ac yn gurad parhaol Dolwyddelan a Chapel Curig. Ar 25 Awst 1802, cafodd reithoraeth Llanbedr-y-cennin a Chaerhun; fe'i dilynwyd yn ysgol Llanrwst gan Edmund Davies yn 1812. Bu farw yn 1826 (claddwyd ef 9 Hydref, yn Llanbedr-y-cennin), 'yn 66 oed,' meddai carreg ei fedd. Coffeir John Williams oherwydd ei ddiddordeb dwfn yn llenyddiaeth a hanes Cymru ac am iddo fod yn foddion i gadw rhan helaeth o lythyrau a phapurau a dogfennau teulu Wynniaid Gwydir - am yr hanes gweler y rhagymadrodd i Calendar of Wynn (of Gwydir) Papers a gyhoeddwyd gan LL.G.C. yn 1926; daeth cyfran arall i'r Llyfrgell Genedlaethol o gasgliad Paul Panton Plasgwyn, Pentraeth, sir Fôn, a oedd yn gyfoeswr iddo. John Williams bioedd y llythyrau gan Goronwy Owen a gyhoeddwyd gan J. H. Davies yn 1924; cadwodd hefyd rai o lythyrau Edward Owen, Warrington a oedd yn adnabod Goronwy Owen. O gasgliad John Williams y daeth NLW MS 30B , NLW MS 31B , NLW MS 32B , NLW MS 33B , NLW MS 34B , NLW MS 58B , NLW MS 107B , NLW MS 109B , NLW MS 276A , NLW MS 302C , NLW MS 343B , NLW MS 344D , NLW MS 345B .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.