WILLIAMS, JOHN (1754 - 1828), clerigwr Methodistaidd

Enw: John Williams
Dyddiad geni: 1754
Dyddiad marw: 1828
Rhiant: Mary Williams (née Francis)
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 23 Mai 1754, ail fab Williams, Williams, Pantycelyn. Addysgwyd ef yng Nghoed-cochion, ysgol ramadeg Caerfyrddin, ac Ystrad Meurig. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1779, ac yn offeiriad yn 1780. Bu'n gurad yn Llanfynydd ac yn Llanfair-ym-Muellt. Aeth i gadw ysgol yn Llangrallo, Sir Forgannwg, yn 1781, ar gais D. Jones, Llan-gan. Tua'r un adeg ymunodd â'r Methodistiaid. Aeth yn athro i athrofa'r arglwyddes Huntingdon yn Nhrefeca, yn 1784, a bu'n brifathro yno o 1786 i 1791. Bu'n gefn i Fethodistiaid Brycheiniog, a chymerth ran ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn 1811. Golygodd argraffiad newydd o emynau dad, Gwaith Prydyddawl … W. Williams (Caerfyrddin, 1811), ac ef a drosodd emyn Saesneg ei dad, ' O'er the gloomy hills of darkness ', yn Gymraeg. Cyhoeddodd ei drosiad o lyfr William Jones (Nayland), Yr Athrawiaeth Gatholig o Drindod (Trefeca), yn 1794. Bu farw ym Mhantycelyn 5 Mehefin 1828, a'i gladdu gyda'i dad yn Llanfair-ar-y-bryn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.