WILLIAMS, JOHN ('Ioan Rhagfyr '; 1740 - 1821)

Enw: John Williams
Ffugenw: Ioan Rhagfyr
Dyddiad geni: 1740
Dyddiad marw: 1821
Priod: Jane Williams (née Jones)
Rhiant: William Robert Williams
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 26 Rhagfyr 1740, yn Hafoty Bach, plwyf Celynnin, Meirionnydd, mab William Robert Williams, a'i fam yn berthynas i Edward Samuel, Llangar. Symudodd y teulu i fyw i Dalywaen, ger Dolgellau. Gwneuthurwr hetiau brethyn ydoedd y tad, a dysgodd y mab y grefft. Arferai masnachwyr gwlân o Amwythig letya yn Nhalywaen, a thynnwyd eu sylw at ddawn John Williams i ddysgu, a thalasant am dri mis o addysg iddo yn Amwythig. Cafodd wersi mewn cerddoriaeth, a dysgodd ganu'r trwmped a'r ffliwt. Wedi dychwelyd gartref dechreuodd gyfansoddi cerddoniaeth a barddoniaeth. Yn 1763 priododd â Jane, merch William Jones, Bryn Rhyg, Dolgellau. Yn 1772 rhoddodd ei grefft i fyny ac aeth yn glerc at Edward Anwyl, cyfreithiwr, ac wedi hynny bu'n cadw ysgolion yn Nhrawsfynydd, Abermaw, Dolgellau, a Llanelltyd. Efe oedd cerddor enwocaf ei gyfnod, a chyfansoddodd lawer iawn o gerddoriaeth offerynnol, anthemau, a thonau. Bu rhai o'i anthemau yn boblogaidd am amser hir, a cheir ei donau ' Sabath,' ' Cemaes,' a ' Dyfroedd Siloah ' yn ein casgliadau tonau. Ceir ei ddarnau offerynnol - yr ymdeithganau, gavottes, a minuets - yn Y Cerddor Cymreig (' Ieuan Gwyllt '). Yn llyfr Ffoulk Robert Williams ('Eos Llyfnwy ') ' Cerddoriaeth o Gerddi Seion ' mewn llawysgrif sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir 59 o donau a 21 o anthemau o waith John Williams. Bu farw 11 Mawrth 1821 a chladdwyd ef ym mynwent Llanfair Bryn Meurig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.