WILLIAMS, JOHN (1727 - 1798), gweinidog Presbyteraidd (Seisnig)

Enw: John Williams
Dyddiad geni: 1727
Dyddiad marw: 1798
Priod: Elizabeth Williams (née Dunn)
Priod: Martha Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Presbyteraidd (Seisnig)
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Roger Thomas

Ganwyd 25 Mawrth 1727 yn Llanbedr-Pont-Steffan, Sir Aberteifi. Wedi bod yn academi Caerfyrddin o dan Evan Davies a Samuel Thomas, bu'n gweinidogaethu yn Stamford, sir Lincoln, 1752-5, Wokingham, sir Berks, 1755-67, ac yn Sydenham, Caint, 1767-95. Dewiswyd ef yn llyfrgellydd llyfrgell y Dr. Williams, Llundain, yn 1777. Pan ymneilltuodd o'r swydd honno, yn 1782, daeth yn un o ymddiriedolwyr y llyfrgell a pharhau felly hyd ei farwolaeth, 15 Ebrill 1798; y mae darlun ohono yn y llyfrgell. Priododd (1) 1767, â (Mrs.) Martha Still (bu farw 1777); a (2) 1781, ag Elizabeth Dunn.

Gweithiau ar ysgolheictod feiblaidd a ieithyddol oedd ei brif gyhoeddiadau: (1) A concordance to the Greek Testament, 1767, gwaith a gyfrifid yn safonol nes y dilynwyd ef gan gytgordiad Wigram; (2) A free enquiry into the authenticity of the first and second chapters of St. Matthew's Gospel, gwaith a gyhoeddwyd, heb enw'r awdur, yn 1771, ac a ailargraffwyd, gydag enw'r awdur ac ychwanegiadau, yn 1789; (3) Thoughts on the origin, and on the most rational and natural method of teaching the languages, 1783 - ceir yn hwn blê dros ddyfod â'r iaith Ladin yn ôl fel iaith fyd-eang. Dywedir mai efe oedd awdur Critical Dissertations on Isaiah, vii, 13-6, 1768; dywedir hefyd fod ganddo yn barod i'r wasg adeg ei farw gyfieithiad o Graeco-barbara Novi Testamenti quae Orienti ortginem debent (gan M. P. Cheitomaeus, 1649). Eithr ei waith llenyddol hynotaf, efallai, ydoedd ei amddiffyniad o'r gred i Gymry ddarganfod America yn y 12fed ganrif - An enquiry into the truth of the tradition concerning the discovery of America by Prince Madog ab Owen Gwynedd about the year 1170 , 1791. Cyhoeddwyd Further Observations ar yr un pwnc yn 1792.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.