Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , JOHN ( 1627 - 1673 ), Anghydffurfiwr cynnar, pregethwr a meddyg ; g. yn y Tynewydd (=‘ Castellmarch Uchaf ’) yn Llŷn , o deulu bonheddig, yn fab i William a Mary Jones . Ymaelododd yn Rhydychen o Goleg Iesu , 7 Mawrth 1647 , ‘yn 20 mlwydd oed,’ i baratoi at fod yn feddyg. Yr oedd amryw o uchelwyr ei fro'n ochri gyda'r Piwritaniaid ; felly yntau, a dywedir iddo, wedi dechrau pregethu , fod yn gaplan i'r cyrnol John Jones o Faesygarnedd [q.v.] . Eithr hynod amhendant yw ein gwybodaeth am ei yrfa o 1647 hyd 1662 ; ni ellir pwyso'n rhy ffyddiog ar y traddodiadau amdano a gasglwyd gan Robert Jones , Rhoslan , nac yn wir ar adroddiadau manylach a diweddarach — nid oes e.e. unpeth i brofi mai ef oedd y ‘ John Williams ’ a roddwyd ym mywoliaeth Llanbeblig yn 1651 ac a'i daliodd hyd 1660 ; nid oes chwaith unrhyw awgrym yn llsgr. Mostyn 237 ( N.L.W. ) yn ei uniaethu â'r ‘ John Williams ’ sydd yn y rhestr honno o Anghydffurfwyr milwriaethus y bu'n rhaid chwilio eu tai am arfau yn 1661 yn Llŷn . Ond yr oedd yn Llundain yn 1662 , a dywedir iddo fod yn gaplan yn nhŷ uchelwr Piwritanaidd yng Nghaint . Yn 1663 , ac yntau eto yn Lloegr , rhoes ustusiaid sir Gaernarfon wysion i'w ddal ef a Richard Edwards o Nanhoron [q.v.] , ar sail llythyr bradwrus (meddid) a anfonasai ef at Edwards . Pan glybu hyn, rhoes Williams ei hunan yn nwylo'r awdurdodau yn Llundain , a llwyddodd i wrthbrofi'r cyhuddiad; rhyddhawyd hwy ill dau ar ôl bod 10 wythnos yng ngharchar. Dychwelodd John Williams i'w sir, a dilyn ei alwedigaeth fel meddyg . Yr oedd wedi priodi â Dorothy Whalley o sir Gaerlleon ; yn Bryn Gro , Clynnog Fawr , yn 1666 , y g. ei unig blentyn Mary , ond yn Llangïan y bedyddiwyd hi, ac y mae'n sicr mai'r Tynewydd oedd ei drigfan arferol — y tŷ hwnnw a gofrestrwyd ar 5 Medi 1672 yn dŷ cwrdd, dan Oddefiad y flwyddyn honno. Ddiwedd Awst 1672 ymwelodd Henry Maurice [q.v.] â Llŷn , ac ar 7 Medi galwodd yn y Tynewydd i weld ei ‘gâr,’ chwedl yntau — ni lwyddwyd hyd yn hyn i brofi perthynas rhyngddynt. Edliwiodd Maurice i John Williams ‘ ei hir lonyddwch, am nad oedd wedi pregethu ers tro mawr ,’ a serch iddo weled ‘llawer o ras’ yn Williams , ni fodlonwyd ef gan ei esgusodion. Aeth yr eilwaith i'w weld ( 14 Medi ) ac ymliw ag ef eto am ‘ esgeuluso gwaith yr Arglwydd yn y wlad honno ' — a chafodd John Williams ddigon o wroldeb i ddweud rhai pethau go blaen wrtho yntau. Bu John Williams f. 28 Mawrth 1673 , ‘yn ei 47 flwydd,’ a chladdwyd yn Llangïan ; y mae darlun o'r arysgryf Ladin (â phais arfau) garreg ei fedd i'w weld yn y Cofiadur , 1928 — gelwir ef yn ‘weinidog trwy ras Duw,’ ac yn ‘iechyd ei fro’ (gan gyfeirio at ei ddwy alwedigaeth).

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 194;
  • Drych yr AmseroeddY Llenor (Rhoslan) , 1820; arg. arall [1841]; arg. , yn , xv–xvi, 1898 , 9-12 (=22-4 yn arg. O.M.E.);
  • T. Rees , History of Protestant Nonconformity in Wales , 129-31, 215, 217;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iii, 155, 162-5;
  • cyfrolau Thomas Richards ar Anghydffurfiaeth fore Cymru (mynegeion), a'i ysgrif ar Henry Maurice yn Y Cofiadur am 1928 ;
  • W. Gilbert Williams yn Y Cofiadur am 1928 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor