WILLIAMS
,
JOHN
(
1854
-
1921
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
;
g.
24 Rhagfyr 1854
yn
Cae'r-gors
,
Llandyfrydog
,
sir Fôn
. Hanoedd ei dad,
John
Williams
, o gymdogaeth
Mynydd y Garn
, a'i fam,
Jane
Rowland
, o
Gemaes
. Symudodd y teulu pan oedd ef yn 9 oed i
Fiwmares
. Yno yn
1871
aeth i'r ysgol ramadeg a gedwid gan
John
Evans
, ac wedyn gan
Hugh
Williams
(
1843
-
1911
) [q.v.]
. Dechreuodd
bregethu
yn
1873
ac yn
1875
aeth i
Goleg y Bala
o dan
Dr.
Lewis
Edwards
. Yn
1878
daeth i fugeilio eglwys
Brynsiencyn
. Enillodd boblogrwydd yn fuan fel
pregethwr
a chadwodd ef hyd ei fedd. Yn
1895
symudodd i
Prince's Road
,
Lerpwl
. Yn
1899
priododd ag
Edith Mary
Hughes
; ganwyd iddynt fab a dwy ferch. Ymddeolodd o ofal bugeiliol yn
1906
a dychwelodd i
Fôn
gan wneud ei gartref yn
Llwyn Idris
,
Brynsiencyn
. Bu f.
1 Tachwedd 1921
, a chladdwyd ef ym mynwent
Llanfaes
ger
Biwmares
. Meddai ar bersonoliaeth hardd, llais a pharabl cryf a chroyw, iaith gyfoethog, dychymyg byw, crebwyll treiddgar, a huodledd digymar. Cydnabyddid ef fel y
meistr mwyaf ar areithyddiaeth glasurol yn y pulpud Cymreig
. Bu'n
llywydd cymdeithasfa'r Gogledd
,
1907
;
llywydd y gymanfa gyffredinol
,
1913
;
darlithydd Davies
,
1921
. Bu iddo
ran flaenllaw yn ffurfiad y fyddin Gymreig
ddechrau rhyfel
1914-8
, a gwnaed ef yn
gaplan mygedol
iddi. Yn
1917
anrhydeddwyd ef â'r radd o
D.D.
gan
Brifysgol Cymru
. Y mae cofiant iddo gan
R.R.
Hughes
(
1929
) a chyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau (
1922
,
1923
).
Llyfryddiaeth:
-
Y Parchedig John Williams, D.D.,
Brynsiencyn
, Caernarfon, 1929
;
- gwybodaeth bersonol.
Awdur:
Y Parch. John Edward Hughes, B.D., (1879-1959), Brynsiencyn