WILLIAMS, JOHN ('Glanmor '; 1811 - 1891), clerigwr a hynafiaethydd

Enw: John Williams
Ffugenw: Glanmor
Dyddiad geni: 1811
Dyddiad marw: 1891
Priod: Elizabeth Williams (née Deer)
Rhiant: Elizabeth King Williams
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth
Awdur: Frank Price Jones

Ganwyd yn y Foryd, ger y Rhyl, 11 Awst 1811, yn fab i William ac Elizabeth King Williams. Dechreuodd ei yrfa fel ysgolfeistr. Yn 1849 penodwyd ef yn athro yn Ysgol Genedlaethol Llangernyw, sir Ddinbych. Symudodd oddi yno yn 1852 i'r Blue Coat School yn Ninbych, ac yno y bu hyd 1859. O Ddinbych aeth yn athro i ysgol genedlaethol Gwersyllt, ger Wrecsam, lle y bu hyd 1864. Yn 1864 aeth yn ddisgybl i Goleg Diwinyddol S. Bees ac ymhen dwy flynedd ordeiniwyd ef yn ddiacon ac yn 1867 yn offeiriad. Bu'n gwasnaethu fel curad yn White-haven (1866 hyd Rhagfyr 1868), Amlwch (1868 hyd 1871), ac Ebbw Vale (1871 hyd 1883). Yn 1883 penodwyd ef yn rheithor Llanallgo gyda Llaneugrad, Môn, ac yno y bu hyd ei farwolaeth, 12 Ebrill 1891. Claddwyd ei gorff yn Llanallgo. Priododd, 1854, ag Elizabeth (bu farw 1890) merch William Deer, Birmingham; ganwyd iddynt un mab a thair merch. Bu'n cystadlu lawer gwaith mewn eisteddfodau; cyfansoddodd awdlau ar ' Y Gwanwyn,' ' Yr Eira,' ' Diwedd y Cynhaeaf,' a chywydd (buddugol yn eisteddfod Bangor) ar ' Nineveh.' Bu hefyd yn feirniad eisteddfodol. Yn Gymraeg, ysgrifennodd Hanes yr Eglwys yng Nghymru, ynghyd a Tharddiad ac Amldaeniad Anghydffurfiaeth (Rhyl, J. Morris, 1877), a hefyd Awstralia a'r Cloddfeydd Aur (Dinbych, T. Gee, 1852). Golygodd Carolau gan Brif Feirdd Cymru a'i Phrydyddion (Wrecsam, Hughes a'i Fab, 1865), a cyhoeddodd yr un cwmni gyfrol o'i Waith yn 1865. Eithr prif gyfraniad ' Glanmor,' ydoedd ei ddwy gyfrol ar hanes arglwyddiaeth a thref Dinbych, sef Ancient and Modern Denbigh (Denbigh, 1856), a The Records of Denbigh and its Lordship (Wrexham, 1860). Erbyn heddiw, gwelir fod trefniant y ddwy gyfrol yn aflêr, a rhai o'r ffeithiau yn anghywir, ond yn eu dydd yr oeddynt yn gyfraniad gwerthfawr i hanes Cymru yn y canol oesoedd. Nid oes dim wedi ymddangos hyd yn hyn i gymryd lle Ancient and Modern Denbigh, ond cyhoeddwyd Survey of the Honour of Denbigh, 1334 (gol. P. Vinogradoff a F. Morgan, British Academy, London, 1914) sydd yn gwella ar benodau cyntaf The Records of Denbigh and its Lordship. Ond ceir yn y gyfrol hon ddyfyniadau o gofnodion y fwrdeisdref a rhestri o'r swyddogion a siryfon nas ceir yn unman arall.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.