WILLIAMS
,
JOHN
(
1762
-
1823
),
pregethwr Methodist ac emynydd
;
g. ym
Meidrym
,
sir Gaerfyrddin
. Bu'n trigo yn
Llanedi
am dymor; symudodd oddi yno i
werthu llaeth
yn
Abertawe
. Bu f.
28 Tachwedd 1823
. Yr oedd yn
bregethwr
nerthol, ond yn bur ddiystyr o reolau'r
Corff Methodistaidd
. Ceir saith o'i emynau yng nghasgliad ei gymydog,
Daniel
Evans
o'r
Mynydd-bach
,
Swp o Ffigys
, etc.,
1824
. Bu rhai ohonynt mewn bri unwaith ond nis arferir yn awr.
Llyfryddiaeth:
-
H. Bevan
,
Ychydig hanes neu goffadwriaeth am amryw
bethau neillduol a gymmerasant le ymhlith corph y
Methodistiaid Calfinaidd yn ac o'u dechreuad, sef oddiar yr
amser y daeth Mr. Howel Harries i bregethu yn ei droion
cyntaf i amryw barthau o Sir Forganwg a'i chyffiniau pethau
na buont yn argraffedig o'r blaen, eithr wedi eu clywed o
eneuau yr hen bobl ag oedd yn fyw yn yr amser hyny, ac wedi
eu hysgrifenu er mwyn eu cadw mewn coffadwriaeth, ar
ddymuniad rhai Brodyr
, Abertawe, 1838
, 24;
-
W. A. Griffiths
,
Hanes Emynwyr Cymru
, Caernarfon,
1907
, 55;
-
James Morris
,
Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin
,
1911
, 181.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe