Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , JANE (‘ Ysgafell ’; 1806 - 1885 ), awdur llyfr Saesneg ar hanes Cymru ac amryw lyfrau eraill . Yr oedd yn ferch i David ac Eleanor Williams o Riley Street , Chelsea , lle y g. hi, 1 Chwefror 1806 . Yr oedd ei thad, a weithiai yn swyddfa'r Llynges , yn llinach Henry Williams ( 1624? - 1684 ), Ysgafell [q.v.] . Gan waeled ei hiechyd treuliodd Jane hanner cyntaf ei hoes yn y Neuadd Felen ger Talgarth , sir Frycheiniog , lle y dysgodd Gymraeg a dechrau ymddiddori yn llenyddiaeth Cymru . Daeth i adnabod arglwyddes Llanofer , a thrwyddi hi eraill a oedd yn ymhel â llenyddiaeth. O 1856 ymlaen ymgartrefai yn Llundain . Bu f. yn Chelsea ar 15 Mawrth 1885 ; claddwyd hi ym mynwent Brompton . Yn breifat yr argraffwyd ei Miscellaneous Poems , 1824 , ond yn ddiweddarach cyhoeddwyd Twenty Essays on the Practical Improvement of God's Providential Dispensations as Means to the Moral Discipline to the Christian ( London , 1838 ); Artegall; or Remarks on the Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales ( Llandovery a Llundain , 1848 ), llyfryn dienw'n trafod cymwysterau'r tystion ac yn dyfynnu'r adroddiadau i wrthbrofi cyhuddiadau'r comisiynwyr ; The Literary Remains of the Rev. Thomas Price, Carnhuanawc … with a Memoir of his Life ( Llandovery , 1854-5 ); The Origin, Rise and Progress of The Paper People ( London , 1856 ), llyfryn ar un o ddifyrion mebyd gyda darluniau o waith arglwyddes Llanofer ; The Autobiography of Elizabeth Davis, a Balaclava Nurse, Daughter of Dafydd Cadwaladr ( London , 1857 ); The Literary Women of England ( London , 1861 ), llyfr sylweddol; Celtic Fables, Fairy Tales and Legends ( London , 1862 ), adargraffiad o chwedlau ar gân a ymddangosasai yn Ainsworth Magazine , 1849-50 ; A History of Wales derived from Authentic Sources ( London , 1869 ), ffrwyth ymchwil i hanes Cymru hyd ddiwedd cyfnod y Tuduriaid, a'r llyfr gorau ar y pwnc yn Saesneg cyn cyhoeddi gwaith Syr John Lloyd . Ymddangosodd ‘ A History of the Parish of Glasbury ' o'i gwaith hi yn yr Arch. Camb. , 1870 . Yn 1843 cyfieithodd o'r Ffrangeg draethawd Carl Meyer ar ieitheg gymharol yr ieithoedd Celtaidd ac fe'i cyhoeddwyd yn y Cambrian Journal , 1854 . Cydnebydd Brinley Richard yn ei ragair i'w Songs of Wales iddi fod o gynhorthwy iddo.

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography

Awdur:

Brinley Rees, ( -2001), M.A., Bangor