Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , WILLIAM HUGH (‘ Arafon ’; 1848 - 1917 ), arweinydd llafur ; g. 8 Awst 1848 ym Mynydd Llandygai , sir Gaernarfon — ei fam yn chwaer i William Owen , Prysgol [q.v.] . Efe oedd arweinydd chwarelwyr y Penrhyn , sir Gaernarfon , yn streic 1896 a'u cyfarwyddwr answyddogol yn streic fawr 1900-03 . Bu'n ysgrifennydd ariannol Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru . Yr oedd yn ŵr diwylliedig ac yn arweinydd doeth. Bu f. ym Mynydd Llandygai 24 Tachwedd 1917 .

Llyfryddiaeth:

  • E. Morgan Humphreys , Gwyr Enwog Gynt argraffiadau ac atgofion personol , Aberystwyth, 1950 , 950 .

Awdur:

David Thomas, O.B.E., M.A., (1880-1967), Bangor