WILLIAMS, HUGH (1843 - 1911), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a hanesydd eglwysig

Enw: Hugh Williams
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1911
Priod: Mary Williams (née Bromley)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a hanesydd eglwysig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Edward Hughes

Ganwyd ym Mhorthaethwy, 17 Medi 1843, mab i dyddynnwr. Cafodd ei addysg elfennol ym Mhorthaethwy a Bangor. Wedi gadael yr ysgol bu'n gweithio'n saer maen; ar yr un pryd darllenai ac astudiai bob llyfr o fewn ei gyrraedd. Dechreuodd bregethu Ionawr 1863 ac yn 1864 aeth i Goleg y Bala; bu'n athro cynorthwyol yno, 1867-9. Graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Llundain yn 1870 gydag anrhydedd yn yr ail ddosbarth, ac yn M.A. yn 1871. Yn 1872 daeth i gadw ysgol ramadeg ym Mhorthaethwy. Yn 1875 penodwyd ef yn athro Groeg a mathemateg yng Ngholeg y Bala. Cyn dechrau ar ei waith yno bu yn yr Almaen yn astudio Almaeneg, a fu o gymaint gwerth iddo yn ddilynol. Pan drowyd Coleg y Bala yn athrofa ddiwinyddol (1891) gwnaed ef yn athro hanes yr Eglwys. Yn Rhagfyr 1884, priododd â Mary, merch hynaf Urias Bromley, Caer; ni bu iddynt blant. Yn 1903 bu'n llywydd cymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd yn y Gogledd. Yn 1904 derbyniodd y radd o D.D. o Brifysgol Glasgow. Bu farw 11 Mai 1911 a chladdwyd yn Llanycil.

Paratôdd argraffiad o Gildas, gyda chyfieithiad Saesneg ('Cymrodorion Record Series,' 1899 a 1901). Ysgrifennodd i'r Gwyddoniadur Cymreig; Hastings, Encycl. of Religion and Ethics; y Zeitschrift f. Celtische; Philologie; Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion; Y Traethodydd, etc; ac esboniadau ar y Galatiaid a'r Colosiaid. Ond ei waith pennaf oedd ei Christianity in Early Britain ('Darlith Davies,' 1905) a gyhoeddwyd wedi ei farw gan y Clarendon Press yn 1912. Erys y gwaith hwn, a ddengys ymchwil fanwl i'r ffynonellau gwreiddiol, yn sail i bob astudiaeth bellach o'r maes; enillodd i'w awdur gryn enw, nid yn unig ym Mhrydain ond yn Ffrainc a'r Almaen. Meddai ystôr anferth o wybodaeth fanwl, cof gafaelgar, deall cryf, a phenderfyniad di-ildio. Gwrthodai bob casgliadau ail-law; mynnai bob amser fyned i lygad y ffynnon am ei ffeithiau. Fel athro (a phregethwr), pwyllog, araf, onid afrwydd ei ymadrodd ydoedd, ond ar ei efrydwyr rhoddai argraff ddofn o gydnabyddiaeth eang â gweithiau haneswyr a diwinyddion bore yr Eglwys, cydwybodolrwydd mawr, tegwch a chydbwysedd barn, amhartïaeth hollol yn ei gasgliadau, gydag argyhoeddiad dwfn o fawredd a phwysigrwydd yr hyn y traethai amdano. Meddai gydwybod am ffeithiau, a'i arwyddair iddo'i hun ac i'w efrydwyr oedd cywirdeb a manylder.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.