Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , WATKIN HEZEKIAH (‘ Watcyn Wyn ’; 1844 - 1905 ), athro, bardd, a phregethwr ; mab Hezeciah Williams , a ffermiai Cwmgarw Ganol ger Brynaman wrth odre'r Mynydd Du , ac Ann , merch David Williams , y Ddôl-gam , Cwmllynfell . Yng Nghwmgarw y magwyd ef er mai yn y Ddôlgam y cafodd ei eni (ar 7 Mawrth 1844 ). Cawsai ychydig fisoedd o ysgol cyn iddo ddechrau gweithio dan y ddaear yn 8 oed. Bu dan ysgolfeistri lleol am ryw fis yn awr ac yn y man ar ôl hynny a dysgodd lawer gan ei gydweithwyr yn y pwll glo. Dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau yn ifanc. Dysgodd y cynganeddion yng nghwmni Gwydderig ’ ( Richard Williams , 1842 - 1917 [q.v.] , a beirdd eraill y fro a daeth i adnabod Dafydd Morgannwg ,’ Llew Llwyfo ,’ ac eraill pan fu'n gweithio yng Nghwm Dâr . Yn 1870 priododd â Mary Jones , o'r Trap ger Llandeilo , ond bu hi farw cyn pen blwyddyn gan adael plentyn ar ei hôl. Ddechrau 1872 , gadawodd Watcyn ei waith a mynd i ysgol perthynas iddo, sef Evan Williams , Merthyr Tydfil ; daeth yn athro cynorthwyol yn yr ysgol honno. Yn 1874 dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr . Bu mewn ysgol ragbaratoawl ac yna cafodd bedair blynedd yng Ngholeg Caerfyrddin . Yn 1879 priododd ag Anne Davies , merch o Gaerfyrddin , a'r flwyddyn wedyn, ar ôl bod am ysbaid yn athro mewn ysgol yn Llangadog , agorodd ef a chyd-athro iddo ysgol newydd , yr ‘ Hope Academy ,’ yn Rhydaman ; ar ôl i'w gydweithiwr ymadael yn 1884 bu gofal yr ysgol yn gyfan gwbl arno ef (a'i gynorthwywyr) hyd ei farw. Cododd dŷ newydd iddo'i hun yn 1888 a daeth ‘ Ysgol y Gwynfryn ’ yn enwog drwy'r wlad. Cafodd amryw a ddaeth yn bur enwog fel beirdd a phregethwyr eu haddysg ynddi, ac âi tuag 20 o'r disgyblion i'r gwahanol golegau a galwedigaethau bob blwyddyn.

Yr oedd Watcyn ei hun yn fardd enwog yn ei ddydd. Enillodd ar awdl a phryddest yn rhai o brif eisteddfodau'r cyfnod 1881-93 , a chanodd lawer o gerddi byrrach o dro i dro, rhai difrif a rhai digrif, ac yn enwedig gerddi i'w canu. Y mae rhai o'i emynau, megis ‘ Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod ,’ yn para'n boblogaidd hyd heddiw. Cyhoeddwyd amryw lyfrau o'i farddoniaeth, yn eu plith Caneuon [ 1871 ], Hwyr Ddifyrion , 1883 , Cân a Thelyn [ 1895 ], Storiau Cymru , Caneuon y Safonau , Job (chwaraegerdd), 1874 ; hefyd lyfryn ar lenyddiaeth Gymreig , 1900 , byr-gofiant i T. Penry Evans , 1890 , a'r cyfieithiad Odlau'r Efengyl : sef hymnau diweddaraf Moody a Sankey 1882 . Sgrifennwyd dwy nofel, Irfon Meredydd , 1903 , a Nansi , 1906 , gan Elwyn Thomas ac yntau. Brithir cyfnodolion y cyfnod â cherddi ac erthyglau o'i waith a bu'n gyd-olygydd Y Diwygiwr o 1890 ymlaen. Wedi ei farw cyhoeddwyd cyfrol o'i atgofion. Sgrifennai Gymraeg naturiol a dirodres ond nid ymboenai i berffeithio'i arddull. Yr oedd yn adnabyddus fel pregethwr a darlithiwr ; cawsai ei ordeinio yn 1894 . Bregus fu ei iechyd ar hyd y blynyddoedd. Bu f. 19 Tachwedd 1905 a chladdwyd ef ym mynwent Gellimanwydd , Rhydaman . Codwyd cofgolofn iddo gan ei ddisgyblion yng nghapel y Gwynfryn , a sgrifennwyd cofiant iddo gan Pennar Griffiths . Nid oedd ‘ Watcyn Wyn ’ yn fardd gwych nac yn bregethwr huawdl nac yn ŵr dysgedig iawn, ond gwnaeth ei ffraethineb diball, ei synnwyr cyffredin di-lol, a'i naturioldeb diddan y gwerinwr hynod hwn yn anwylddyn gan ei genedl.

Llyfryddiaeth:

  • Y Diwygiwr , 1906 , 1-27;
  • Cymru , 1906 , 245-8;
  • Adgofion Watcyn Wyn , Merthyr Tydfil a Chaerdydd, 1907 , 1907 ;
  • Pennar Griffiths , Cofiant Watcyn Wyn. Gyda darluniau , Caerdydd, 1915 , 1915 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography , atodiad 1901-11 .

Awdur:

Brinley Rees, ( -2001), M.A., Bangor