Cymysglyd iawn yw'r adroddiad o ddisgynyddion Syr David Williams a roddir inni gan Theophilus Jones (op. cit., iii, 82-3), gan Burke ( Extinct Baronetcies , 568), a chan Jane Williams yn ei hysgrif ar y Clas-ar-Wy ( Arch. Camb. , 1870 , 308-9) — e.e. cymysgwyd dwy genhedlaeth, fel y dangosodd R. W. Banks ( Arch. Camb. , 1879 , 153 — neu ar iii 91-2 o'r 3ydd arg. o Theophilus Jones ). Dilynwyd Syr David gan ei fab Syr HENRY WILLIAMS , a fu f. 1636 . Tebyg mai hwn (ac nid ei fab, fel y dywed y rhestr o aelodau seneddol ar ddiwedd Hist. Brecknock ) oedd yr aelod seneddol dros dref Aberhonddu , 1601-4 ; urddwyd ef yn farchog yn 1603 ac yr oedd yn aelod o Gyngor y goror yn 1617 ; gellid meddwl drachefn mai efe oedd yr aelod seneddol dros Frycheiniog o 1620 hyd 1628 . Ar y llaw arall, gan y gelwir aelod seneddol Brycheiniog yn 1628-9 yn ‘ Henry Williams , Ysw. ’, odid nad ei fab oedd hwnnw — Syr HENRY WILLIAMS (a fu f. 1652 ), a urddwyd yn farwnig yn 1644 , ac a groesawodd Siarl I i Wernyfed ar ei ymweliad â Chymru ar ôl brwydr Naseby ( 1645 ). Gan na eilw neb o ddisgynyddion gwrywol hwn am sylw, nid rhaid yma ymboeni i ddatrys yr achau; myn Burke i'r farwnigiaeth barhau hyd 1798 , ond dyfynna Banks dystiolaeth gyfoes ei bod hi wedi darfod cyn 1727 , ac y mae hynny'n llawer haws ei gredu, oblegid bu dau frawd o'r teulu farw heb feibion, a chyda'r aeres, ELIZABETH WILLIAMS , aeth Gwernyfed drwy briodas i linach newydd o Williamsiaid .
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor