WILLIAMS, GRIFFITH ('Gutyn Peris '; 1769 - 1838), bardd

Enw: Griffith Williams
Ffugenw: Gutyn Peris
Dyddiad geni: 1769
Dyddiad marw: 1838
Rhiant: Catrin Williams (née Gruffydd)
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd 2 Chwefror 1769 yn Hafod Olau, y Waun Fawr, Sir Gaernarfon. Ei dad oedd William, ail fab Edward William o'r Llwyn-celyn Llanberis, a'i fam oedd Catrin ferch Morgan Gruffydd ('Morgan y Gogrwr') o Lŷn. Gweithiai ar y tir yn nechrau ei fywyd, ond yn ddiweddarach cafodd waith yn chwarel y Penrhyn lle daeth yn swyddog ymhen amser. Cyfarfu a damwain i'w feilwng yn y chwarel a bu heb weithio am naw mis o dan ofal y meddyg Robert Isaac o Ymwlch Fawr. Lletyai ar y pryd yn nhŷ Abraham Williams ('Bardd Du Eryri') yng Ngwaun-y-gwiail, Llanllechid, a chafodd fenthyg llyfrau a llawer o hyfforddiant gan y ' Bardd Ddu,' a dyna'r pryd y dysgodd reolau barddoniaeth. Urddwyd ef yn fardd yn ôl 'braint a defawd beirdd Ynys Prydain ' gan ' Iolo Morganwg ' yn eisteddfod Cadair Dinorwig yn 1799. Ysgrifennodd lawer o gywyddau a chaneuon a'u cyhoeddi yn y cyfnodolion, a chyhoeddodd lyfr o'i weithiau o dan y teitl Ffrwyth Awen yn 1816. Ystyrid ef y pwysicaf o 'gywion' ' Bardd Du Eryri,' ond ychydig o ddim y gellid ei ystyried yn farddoniaeth a gyfansoddodd er iddo ennill gwobr y Gwyneddigion am ei awdlau ar ' Goronwy Owen ' a ' Jubilee George III ' yn 1803 a 1810. Bu farw 18 Medi 1838, a chladdwyd ef ym mynwent Llandygai.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.