WILLIAMS, EVAN (1816 - 1878), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac arlunydd

Enw: Evan Williams
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1878
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Crefydd
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd c. 1816, brodor o Ledrod, Sir Aberteifi. Bu'n genhadwr ymhlith Cymry Llundain am tua phedair blynedd. Dechreuodd bregethu yn yr Wyddgrug yn 1848; daeth i Gaernarfon i fyw yn 1851 ac ordeiniwyd ef yn 1859. Bu farw 2 Hydref 1878, yn 62 oed. Ni bu ganddo ofal eglwys.

Yr oedd yn fwy adnabyddus fel arlunydd ('Evan Williams y limner' oedd yr new arferol arno), a phaentiodd ddarluniau o amryw o'i gyfoedion, megis 'Eben Fardd,' Dafydd Jones (Treborth), ac Edward Morgan, y Dyffryn. Yn ei ddarluniau o olygfeydd natur y ceir ei waith gorau, yn enwedig ei ddarluniau o fynyddoedd a llynnoedd yn Eryri. Bu ganddo gyfres o ysgrifau diddorol ar 'Y Gelfyddyd o Arlunio' yn Y Traethodydd o Hydref 1848 hyd Hydref 1849.

Y mae ei fedd ym mynwent Caeathro, ger Caernarfon. Gweler John William Prichard (1749-1829)

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.