WILLIAMS
,
EVAN
(
1719
-
1748
),
Cwmllynfell
,
gweinidog Annibynnol a diwygiwr
;
g.
6 Ionawr 1719
yn
Abercraf
,
Brycheiniog
, yn frawd i
William
Evans
[q.v.]
,
Cwmllynfell
. Hanoedd o deulu crefyddol. Yn ôl pob tebyg, bu yn ysgol
Joseph
Simmons
[q.v.]
yn
Abertawe
neu
Gastell Nedd
. Yn y frwydr boeth rhwng
Calfiniaeth
ac
Arminiaeth
yng
Nghwmllynfell
ymunodd a phlaid
Howel
Harris
a
Daniel
Rowland
. Ffaglodd ei ysbryd efengylaidd tanllyd yn ei gyfathrach â'r diwygwyr. Yr oedd yn wir ddiwygiwr o ran anianawd a gweledigaeth. Dychwelodd i'w hen gynefin yng
Nghwmllynfell
yn
1742
. Cafodd rhyw ‘
Evan
Williams
,
academi Caerfyrddin
,’ rodd gan y
Bwrdd Cynulleidfaol
yn
1743
. Hwyrach ei dderbyn i'r academi y flwyddyn honno ac iddo deithio llawer ar draws y wlad i
bregethu
rhwng 1743 a 1745
. Epig fawr ei fywyd oedd y daith ryfedd honno i
sir Gaernarfon
pryd yr erlidiwyd ef yn greulon. Enwir ef fel ‘
minister
’
Cwmllynfell
ar drwydded
1744
. Aeth i
academi Caerfyrddin
yn
1745
. Derbyniodd rodd o £2 oddi wrth y
Bwrdd Cynulleidfaol
ar
5 Hydref 1747
. Nodir i
Evan
Williams
(
gweinidog
Cwmllynfell
yn ddiweddarach) gael rhodd o £2 yn ei le. Bu
Evan
Williams
f.
20 Awst 1748
ar ôl clafychu yn hir ar ôl y daith i
Gaernarfon
. Tystiai
Edmund
Jones
,
Pontypŵl
, ei fod yn
bregethwr
dihafal, yn fyfyriwr mawr yn yr Ysgrythurau, ac y buasai yn oleuad mawr ym mhulpud
Cymru
pe cawsai fyw.
Llyfryddiaeth:
-
Robert Jones (Rhoslan)
,
Drych yr
AmseroeddY Llenor
(Rhoslan) , 1820; arg. arall [1841]; arg. , yn , xv–xvi,
1898
;
-
Hanes Eglwys Cwmllynfell
, , a
, 1935
, 11-13;
-
Llawlyfr Undeb Ystradgynlais
,
1950
;
-
A Sermon…occasioned by the Death of Mr. Evan
Williams…to which is added some Account of his Life and
Death
, 1750
;
-
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, ii, 146; iii, 44;
-
Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
10330.
Awdur:
Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth