Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , ELISEUS (‘ Eifion Wyn ’; 1867 - 1926 ), bardd . Pobl o Eifionydd oedd ei rieni ond g. ef ym Mhorthmadog , 2 Mai 1867 , a bu am y 30 mlynedd olaf o'i oes yn glerc a chyfrifydd mewn swyddfa masnachwyr llechi (‘ The North Wales Slate Co. ’) yn y dref honno. Bu'n athro ysgol am ychydig — yn Ysgol y Bwrdd , Porthmadog , ac ym Mhentrefoelas . Tua'r flwyddyn 1889 dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr ond gwrthododd alwadau i fugeilio eglwys. Yn 1907 priododd ag Ann Jones , Efail Bach , Abererch . Ysgrifennodd lawer yn y mesurau caeth a rhydd, yn awdlau, cywyddau, hir-a-thoddeidiau, ac englynion, ac yn delynegion, emynau, a cherddi dychan, ac enillodd amryw gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol , a gwobrwyon yn yr eisteddfod genedlaethol, lle y bu hefyd yn beirniadu . Ei waith ‘caeth’ mwyaf adnabyddus yw awdl ‘ Y Bugail ’ (yr orau, ym marn un beirniad , Tafolog ,’ yng nghystadleuaeth y gadair yn eisteddfod genedlaethol Lerpwl , 1900 ) a'i lu englynion, amryw ohonynt yn fuddugol yn yr eisteddfod genedlaethol. Yn y mesurau rhyddion, ei delynegion ‘ Maes a Môr ’ a'i gwnaeth yn enwog fel telynegwr. Fe gyhoeddodd Ieuenctid y Dydd , 1894 ; Awdl y Bugail , 1900? ; Telynegion Maes a Môr , 1906 ; ac wedi ei farw fe gyhoeddwyd Caniadau'r Allt , 1927 , ac O Drum i Draeth , 1929 , dan olygiaeth Harri Edwards , Porthmadog . ‘ Eifion Wyn ’ oedd awdur y geiriau sydd mewn llyfr tonau i blant, Tlws y Plant , a gyhoeddwyd yn Llanwrtyd , 1906? . Yn 1919 derbyniodd radd anrhydeddus M.A. gan Brifysgol Cymru . Ei hoffterau oedd pysgota , gwleidyddiaeth ( Rhyddfrydwr ), a biliard . Bu f. 13 Hydref 1926 , ym Mhorthmadog , a chladdwyd ef ym mynwent Chwilog , Eifionydd .

Llyfryddiaeth:

  • Yr Ymwelydd Misol , Wrecsam, 1903-14 , Mawrth 1912 ;
  • Y Genedl Gymreig , 18 Hydref 1926 ;
  • Yr Herald Cymraeg (a'r Genedl) , 19 a 26 Hydref 1926 ;
  • Baner ac Amserau Cymru , 21 Hydref 1926 ;
  • Yr Athro , Mehefin 1935 (‘Eifion Wyn a Barddoniaeth Natur,’ D. Myrddin Lloyd ).

Awdur:

Athro-Emeritus Syr Thomas Herbert Parry-Williams, D.Litt., (1887-1975), Aberystwyth