Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , ELIEZER ( 1754 - 1820 ), clerigwr, awdur, ac athro ; g. yn Mhibwr Lwyd (?) ger Caerfyrddin , a'i fedyddio yn eglwys Llandyfaelog , 4 Hydref 1754 , mab hynaf (ac ail blentyn) Peter Williams ( 1723 - 1796 ) [q.v.] a Mary ei wraig. Cafodd addysg yn ysgol ramadeg Caerfyrddin , ac ymaelodi ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu 3 Ebrill 1775 . Urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Yorke o Dyddewi , 3 Awst 1777 , a'i drwyddedu i guradiaeth Tre-lech ; yna aeth yn gurad i Tetsworth yn swydd Rhydychen . Cafodd ei B.A. yn 1778 , a'i urddo'n offeiriad yn Eglwys Crist , Rhydychen , 20 Rhagfyr . Yna bu'n athro yn ysgol ramadeg Wallingford , Berkshire , ac yn gurad Acton yn yr un ardal; o 1780 hyd 1782 bu'n gaplan ar y llong Cambridge . Aeth yn athro teulu i iarll Galloway , a bu gyda'r teulu am ryw wyth mlynedd; yn y cyfamser penodwyd ef gan yr arglwydd ganghellor ( Thurlow ) yn ficer Cynwyl Gaeo a Llansawel yn sir Gaerfyrddin , a sefydlwyd ef 14 Medi 1784 . Bu'n byw yn Llundain ac yn gwasnaethu yn Chadwell , Essex , ac yna dychwelodd i Gymru . Ar 14 Gorffennaf 1805 sefydlwyd ef yn ficer Llanbedr-pont-Steffan , a bu yno hyd ei f. 20 Ionawr 1820 . Claddwyd ef yn Llanbedr .

Ysgrifennodd nifer o weithiau yn Saesneg (gw. y rhestr yn D.N.B. ); cyhoeddwyd casgliad o'r rhain yn 1840 gan ei fab, St. George Armstrong Williams . Yn ystod ei amser yn Llanbedr , agorodd ysgol yno a pharatoi dynion ieuanc ar gyfer urddau eglwysig ; bu llwyddiant mawr ar y gwaith hwn. Priododd (1), 1792 , Anne Adelaide Grebert , o Nancy , Lorraine , Ffrainc ; bu iddynt un plentyn, a fu farw'n faban; bu'r fam farw yn 1796 ; (2), yn niwedd 1796 , Jane Amelia Nuget , merch St. George Armstrong , Armaduff , ger Drumsna , Leitrim , Iwerddon ; bu iddynt wyth o blant. Bu f. ei ail wraig 31 Rhagfyr 1809 .

Llyfryddiaeth:

  • Gomer M. Roberts , Bywyd a Gwaith Peter Williams , Caerdydd, 1943 ;
  • Eminent Welshmen , 1908 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru , 1870

Awdur:

Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

WILLIAMS , ELIEZER ( Bywg. , 974) Gwall argraff — yn enw'r ail wraig, darllener Nugent (nid ‘Nuget’). Anwybydder y (?) ar ôl Lwyd yn yr ail linell.