Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , EDWARD ( 1750 - 1813 ), diwinydd ac athro Annibynnol ; g. 14 Tachwedd 1750 yn Glanclwyd (rhwng Dinbych a Bodfari ) hendref ei deulu am ganrif a hanner cyn hynny; mab i Thomas ac Anne Williams . Eglwyswyr oedd y rhieni, a bwriedid iddo gynnig am urddau, felly anfonwyd ef i ysgol ramadeg Llanelwy ac wedyn i Dderwen , i gael hyfforddiant gan offeiriad y plwyf hwnnw — David Ellis [q.v.] mae'n debyg. Diffygiodd awydd am urddau, a thybiwyd y gwnâi gyfreithiwr, felly aeth i ysgol ramadeg Caerwys — yr oedd Thomas Jones o Ddinbych [q.v.] yn yr ysgol gydag ef. Ond unwaith eto, rhoes y bwriad i fyny ac aeth adref. Yn y cyfwng hwn clywodd Daniel Rowland o Langeitho 'n pregethu, ac ymunodd â'r Methodistiaid — flynyddoedd wedyn ( 1773 ) noda Edmund Jones yn ei ddyddlyfr fel yr oedd gweinidog Annibynnol Trelawnyd wedi gwrthod ei bulpud i Edward Williams ‘ because he had been preaching among the Methodists .’ Eithr yn 1770 yr oedd Williams (gyda chydsyniad ei rieni, nad hoff oedd ganddynt Fethodistiaeth ) wedi dechrau pregethu yn Ninbych gyda'r Annibynwyr , ac yn 1771 aeth i academi'r Fenni . Llanc hynod ddwys oedd ef, amddifad o unrhyw ysgafnder, a darllenai'n awchus gymaint felly nes iddo dros dro gael ei gipio gan olygiadau anuniongred William Llewelyn [q.v.] o Lanllieni ; ond dychwelodd i'r hen lwybrau ac ordeiniwyd ef yn 1775 yn weinidog yn Ross . Fis Medi 1777 , galwyd ef i Groesoswallt . At ei waith fel gweinidog , chwanegodd gadw ysgol , ac yr oedd ar fin datblygu honno'n academi breifat pan wahoddwyd ef i gymryd at academi'r Fenni ar ymadawiad Benjamin Davies [q.v.] i Homerton ; ond mynnodd ef gael symud yr academi ato ef i Groesoswallt ( Mai 1782 ). Sefydlodd ysgol Sul yng Nghroesoswallt ac mewn mannau cyfagos; a phan glybu am ysgolion cylchynol Thomas Charles , plannodd yntau ysgolion cyffelyb mewn amryw siroedd, gyda help ariannol gŵyr da eu byd yn Lloegr ; darparodd gatecismau Cymraeg at eu gwasanaeth. Rhoes yr academi i fyny yn Hydref 1791 ; ar ddiwedd y flwyddyn, derbyniodd alwad i Carr's Lane , Birmingham , a dechreuodd ar ei waith yno gyda 1792 . Yn 1792 , hefyd, daeth yn olygydd cyntaf yr Evangelical Magazine ; a chafodd radd D.D. gan Brifysgol Edinburgh . Yr oedd yn un o gychwynwyr y ‘ London’ Missionary Society ’ ( 1795 ). Symudodd yn 1795 i gymryd gofal academi'r Annibynwyr yn Rotherham ( Yorks ), ac yno y bu f., 9 Mawrth 1813 . Bu'n briod ddwywaith. Y mae cofiant Saesneg iddo, gan Joseph Gilbert , 1825 .

Fe'i gweithiodd ei hunan a'i fyfyrwyr yn ddidrugaredd ar hyd ei yrfa. Pan yng Nghroesoswallt , cyhoeddodd dalfyriad o Social Religion Mathias Maurice [q.v.] , a thalfynid o esboniad John Owen [q.v.] ar yr Hebreaid bu iddo wedyn ran yn y gwaith o gyhoeddi gweithiau Doddridge a Jonathan Edwards ; cyhoeddodd gryn nifer o bregethau ac o anerchiadau — casglwyd rhai o'r rhain, yn bedair cyfrol ( 1862 ) gan Evan Davies ( 1805 - 1864 ) [q.v.] . Ond ei gampwaith oedd An Essay on the Equity of Divine Government … 1813 ; yn hwn, ceisiodd gysoni pen-arglwyddiaeth Duw â rhyddid a chyfrifoldeb dyn, gan ddal bod yr Iawn yn ‘gyffredinol.’ Dyma lyfr gwir bwysig yn ei ddydd, nid yn unig yn Lloegr ond hefyd yng Nghymru . Serch mai Seisnig , bron yn gyfan gwbl, fu gyrfa Edward Williams , ac mai yn Saesneg y sgrifennai, y mae eto'n ffigur amlwg yn hanes ei enwad yng Nghymru . Mewn adwaith yn erbyn Arminiaeth ac Ariaeth ‘gwŷr Caerfyrddin ,’ yr oedd arweinwyr Ymneilltuaeth yng Nghymru wedi ymchwelyd (megis yr ymchwelodd y Methodistiaid wedyn yng nghyfnod John Elias , mewn adwaith yn erbyn Wesleaeth ) at uchel-Galfiniaeth . Edward Williams yn bennaf a ddechreuodd droi'r llanw'n ôl. Disgybl iddo ef (yng Nghroesoswallt ) oedd John Roberts [q.v.] o Lanbrynmair , tad y ‘system newydd’ a welir yn dylanwadu ar wŷr fel Michael Jones [q.v.] mewn gwrthgyferbyniad i'r ‘hen system’ a gynrychiolid gan George Lewis [q.v.] . Ac nid yn ei enwad ei hun yn unig chwaith y darllenid Equity Edward Williams , fel y dengys hanes Evan Evans (‘ Ieuan Glan Geirionydd ’) a Chofiant John Jones, Talsarn . Tri lladmerydd newid yn niwinyddiaeth tri enwad yng Nghymru yng nghwrs y 19fed g. oedd Edward Williams o Rotherham yr Annibynnwr , John Philip Davies o Dredegar [q.v.] y Bedyddiwr , a Lewis Edwards o'r Bala (yn ddiweddarach ac mewn dull gwahanol).

Llyfryddiaeth:

  • Methodistiaeth Cymru , 1851–6 , iii, 136-7;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iv 47-9;
  • D. E. Jenkins , Life of Thomas Charles , 1908 (mynegai);
  • Y Gwyddoniadur Cymreig , 1889–96 , x, 259-76 (helaeth a manwl);
  • G. D. Owen , Ysgolion a Cholegau yr Annibynwyr , 1939 , 101-7.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

WILLIAMS , EDWARD ( Bywg. , 972) Joseph (nid S.) Gilbert oedd awdur ei gofiant. Gw. bellach W. T. Owen , Edward Williams, D.D., his life, thought and influence ( Caerdydd 1963 ).