WILLIAMS, EDMUND (1717 - 1742), un o emynwyr cynnar y diwygiad Methodistaidd

Enw: Edmund Williams
Dyddiad geni: 1717
Dyddiad marw: 1742
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o emynwyr cynnar y diwygiad Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Arthur Gray-Jones

Brodor o Gwm Tyleri, sir Fynwy, ac un o ddychweledigion Howel Harris ar ei daith bregethu gyntaf yn sir Fynwy - Mawrth ac Ebrill 1738. Eglwyswr ydoedd, o deulu da ac yn dda ei fyd. Cafodd addysg dda. Yr oedd yn ŵr defosiynol ac o dan ddylanwad Harris daeth yn 'gynghorwr mawr ei barch ymysg y Methodistiaid.' Cyhoeddodd ef a'i gyfaill Morgan John Lewis, yntau yn gyd-ddychweledig ag ef, gasgliad o emynau Cymraeg a argraffwyd gan S. Mason, Pontypŵl, yn 1741. Cyhoeddwyd, wedi ei farw, gasgliad arall o'i emynau - gan Felix Farley, Bryste, y tro hwn. Dywed Edmund Jones, Y Tranch, Pontypŵl, iddo gyhoeddi hefyd 'rywbeth yn erbyn dawnsio.' Bu farw yn Ebrill a'i gladdu 17 Ebrill 1742.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.