Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , DAVID (‘ Iwan ’; 1796 - 1823 ) gweinidog gyda'r Bedyddwyr ; g. yn Penpontbren ym mhlwyf Llanwnen , sir Aberteifi Ionawr 1796 . Mynychai Aberduar , lle y gweinidogaethai ei lysdad, David Davies . Wedi bod yn ysgol ramadeg Castell Hywel ac athrofa Bryste , bu'n gofalu am ysgol baratoi y Tabernacl , Caerfyrddin , am ychydig. Ysgrifennai'n aml i Seren Gomer , 1818-23 , ac ysgrifennodd Llythyr byr oddi wrth Dwrch daear at ei fam , a Serious remarks on the ordinance of baptism . Cyhoeddwyd ei awdl ar ‘ Cerddoriaeth ’ gyda Grisiau Cerdd Arwest ( Ieuan Ddu ). Ddechrau 1822 , byrddiodd ef a'r eiddo long yng Nghaerfyrddin i fyned yn weinidog ac ysgolfeistr yn swydd Dyfnaint , eithr gorfododd ystorm aruthr hwynt i lochesu yn Abertawe . Rhoes Joseph Harris (‘ Gomer ’) lety i'r teulu, a chadw David Williams i bregethu i'r Saeson a hyfforddi ei fab John yn y clasuron. Bu f. 10 Ionawr 1823 . Cyfansoddodd P.A. Môn awdl, a Gwilym Caledfryn englynion coffa iddo.

Llyfryddiaeth:

  • Seren Gomer , 1823 , 129-32;
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , ii, 636.

Awdur:

Y Parch. William Joseph Rhys, (1880-1967), Gelli, Rhondda / Treherbert