Yr oedd eisoes wedi sgrifennu ar gwestiwn gwella gwasanaethau crefyddol ac ar y chwaraedy pan agorodd, yn 1773 , ysgol breswyl gostus yn Lawrence Street , Chelsea . Yr oedd bellach yn briod; enw ei wraig oedd Mary Emilia . Ar 9 Rhagfyr 1774 ganwyd merch iddynt, a enwyd yn Emilia , ac ar yr ugeinfed o'r un mis bu farw y wraig. Bedyddiwyd yr eneth ar 12 Chwefror 1775 eithr ni chlywir mwy amdani; y mae'n bosibl iddi farw pan oedd yn blentyn. Pan gollodd ei wraig rhoes Williams yr ysgol i fyny. Yr oedd eisoes, fodd bynnag, wedi sgrifennu ei Treatise on Education , 1774 .
Yr oedd ysgrifeniadau Williams wedi tynnu sylw Benjamin Franklin , a gafodd loches ‘ from a political storm ’ ar un achlysur yn nhŷ Williams yn Chelsea . Ffurfiodd y ddau y ‘ Thirteen Club ,’ yn cynnwys nifer o ddeistiaid, ac ysgrifennodd Williams iddynt ei lyfr, A Liturgy on the Universal Principles of Religion and Morality , 1776 . Cafodd y gwaith hwn ei ganmol gan Frederick II , Voltaire , a Rousseau . Pan ymddangosodd y llyfr sylfaenodd Williams ‘ cult of nature ’ mewn capel yn Margaret Street , Cavendish Square . Eithr yr oedd Franklin wedi dychwelyd i America erbyn hyn, a throes llawer o'r addolwyr yn anffyddwyr; a bu'r arbrawf yn fethiant.
Ysgrifennodd Williams Letters on Political Liberty , 1782 , i amdiffyn y trefedigaethwyr yn America ; yn hwn yr oedd yn cefnogi program o ddiwygiad gwleidyddol a oedd yn radicalaidd iawn. Cyfieithwyd y llythyrau hyn yn Ffrangeg gan Brissot a daeth yr awdur yn enwog yn Ffrainc o'u plegid. Ym mis Hydref 1792 gwnaethpwyd ef yn ddinesydd Ffrengig , a gwahoddwyd ef i Baris i gynorthwyo yn nhynnu allan gynllun cyfansoddiad Girondaidd . Arhosodd ym Mharis o ddechrau mis Rhagfyr 1792 hyd ddechrau mis Chwefror 1793 , a phan ddychwelodd gofynnodd Le Brun , gweinidog tramor Ffrainc , iddo gyflwyno cynigiadau heddwch.
Cynhaliai Williams ei hun trwy gymryd disgyblion preifat (amryw ohonynt yn wŷr a ddymunai chwarae rhan mewn bywyd cyhoeddus ond na chawsent ond ychydig addysg), trwy draddodi darlithiau cyhoeddus , a thrwy wneuthur gwaith llenyddol am dâl . Ei waith mwyaf ei faint oedd ei History of Monmouthshire , 1796 . Ymwelodd a Ffrainc ar ôl heddwch Amiens , yn ôl pob tebyg ar gais Llywodraeth Prydain , a chynhyrchodd adroddiad (mewn llawysgrif) ar gyflwr syniadaeth y cyhoedd ynglŷn â Bonaparte .
Prif hawl Williams i enwogrwydd ydyw iddo sefydlu y Royal Literary Fund i gynorthwyo awduron anghennus; ar 18 Mai 1790 y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y gronfa. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yng nghartref y gronfa hon yn 36 Gerrard Square , Soho , ac yno y bu f. ar 29 Mehefin 1816 .
Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth.