Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , DAVID ( 1702 - 1779 ), Morafiad Cymraeg cynnar ;

g. ym mhlwyf Llandwrog ( Arfon ), 2 Awst 1702 . Erbyn 1728 beth bynnag, yr oedd yn Llundain , yn rhwymo llyfrau . Ymunodd ef a'i wraig â'r seiat Forafaidd yn 1739 . Bu hi f. 5 Rhagfyr 1766 , ac yn niwedd 1767 penderfynodd yntau ddychwelyd i fro ei febyd. Efe a ddug Mrs. Alice Griffith (gw. Griffith , William , 1719 - 1782 ) i gyswllt â Morafiaeth , ac a barodd i David Mathias [q.v.] gael ei anfon i Wynedd . Bu f. rhwng Mawrth a Mehefin, 1779 .

Ffynonellau:

  • Y Cymmrodor , xlv, 1938 , pen. vii a'r fynegai.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54