Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , DANIEL ( 1643? - 1716 ), diwinydd Presbyteraidd a chymwynaswr i Ymneilltiaeth ; g. yn Wrecsam neu ei chyffiniau, ni wyddys yn iawn pa bryd, nac enwau ei rieni, ond yr oedd ganddo chwaer, Elizabeth (a fu f. 1728 ) yn briod â lledrwr a thirfeddiannwr yn Wrecsam o'r enw Hugh Roberts . Ni wyddys chwaith ddim am gwrs ei addysg; yr oedd yn bregethwr rheolaidd cyn bod yn 19 oed. Y tu allan i Gymru y bwriodd y cwbl o'i yrfa — y mae'n anodd credu mai ef oedd y ‘ Daniel Williams ’ a gododd drwydded Bresbyteraidd yn Wrecsam yn 1672 dan Oddefiad Siarl II ; yn un peth, yr oedd yn Iwerddon yn y cyfnod hwnnw, a hefyd ni sonia Philip Henry [q.v.] ddim am y peth. Fe ellid efallai gredu bod Williams wedi codi'r drwydded pan oedd ar ymweliad â'r dre. Adroddir ei hanes yn fanwl gan Alexander Gordon yn y D.N.B. fel nad yw'n ofynnol yma ond rhoi braslun ohono. Gweinidogaethai yn Iwerddon o tua 1664 hyd 1687 , pan symudodd i Lundain , yn weinidog Hand Alley , Bishopsgate , ac yn ddirprwy achlysurol dros Richard Baxter fel ‘ darlithydd ’ ( pregethwr ) yn Pinners’ Hall . Pan fu farw Baxter ( 1691 ), cafodd y swydd honno, ond yn y storm a gododd o'i ymosodiadau ar uchel-Galfiniaeth Crisp a Chauncy , collodd hi. Un o ganlyniadau'r ffrwgwd (a Williams bellach wedi sefydlu ‘darlith’ gyfochrog Salters’ Hall ) fu ymddatodiad yr ‘ Happy Union ’ a wnaethid yn 1690-1 rhwng y Presbyteriaid a'r Annibynwyr . Ymosodwyd yn ffyrnig ar Williams am ei ‘ Arminiaeth ’ (‘ Baxteriaeth ’ oedd hi, mewn gwirionedd), ac yng ngwres y frwydr ceisiwyd hefyd bardduo'i gymeriad moesol — yn ofer. Tyfodd yn arweinydd cydnabyddedig (swyddogol, yn wir) y ‘ Tri Enwad ’ yn eu hymdriniaethau â'r wladwriaeth, ac ef oedd arweinydd eu hymweliadau ag Anne a Sior I , ar adeg dyfodiad y rheini i'r goron. Yn 1709 , rhoes Edinburgh a Glasgow raddau D.D. iddo. Bu f. 26 Ionawr 1715/6 ‘yn 72 oed,’ a chladdwyd yn Bunhill Fields . Dug ei ddwy briodas olud mawr iddo. Sgrifennodd lawer (rhestr o'i weithiau yn y D.N.B. ); cyfieithwyd un o'i lyfrau, The Vanity of Childhood and Youth , 1691 , yn GymraegGwagedd Mebyd a Jeuenctid , 1759 . At ei gilydd, ni adewir arnom yr argraff ei fod yn ddyn hoffus.

Yn ei ewyllys, gadawodd bron y cwbl o'i arian (tua £50,000) at achosion da. Ond yn herwydd diffygion ffurfiol yn yr ewyllys, aed i ymgyfreithio yn ei chylch, ac nid cyn 1721 , ac wedi newid peth arni, y daeth allan o'r pair. Nodir yma dri pheth a ddaeth ohoni: (1) sefydlu saith o ysgolion elusennol yng Ngogledd Cymru , gyda darpariaeth at brentisio'r disgyblion wedyn — trowyd y rhain yn ysgolion ‘Brutanaidd’ tua 1850 , ond pan ddaeth Deddf 1870 , a roddai'r ysgolion elfennol ar y trethi, crynhowyd gwaddol ysgolion Daniel Williams i godi ysgol breswyl i ferched , yn Nolgellau , a elwir hyd heddiw ‘ Dr. Williams's School ’; (2) sefydlu ysgoloriaethau i ddarparweinidogion Ymneilltuol i fynd i Brifysgol Glasgow , ac ysgoloriaethau llai i fynd i academi Caerfyrddin ; (3) sefydlu llyfrgell enwog y Dr. Williams yn Llundain — ond yn hyn o beth, datblygodd yr ymddiriedolwyr y cynllun ar raddfa lawer helaethach nag a amcenid gan Daniel Williams ei hunan.

Nid oedd Daniel Williams wedi anghofio Cymru , fel y dengys ei ewyllys — serch mai ei chwaer, Elizabeth Roberts , a fynnodd neilltuo peth o'r stad i dalu symiau blynyddol bychain (fe'u telir hyd heddiw) i weinidogion amryw o'r cynulleidfaoedd Ymneilltuol hynaf yn y Gogledd. Cadwai ei lygad ar Gymru , ac efe, yn 1690 , a oedd yn gyfrifol am drefnu'r adroddiad ar Gymru i ddiben rhoi grantiau i'w gweinidogion allan o'r ‘Common Fund’ (gw. Gordon , Freedom after Ejection ). Aeth llawer Cymro i Glasgow ar waddol Daniel Williams . Dylid nodi un canlyniad yng Nghymru o'r ffrae rhyngddo ef a'r uchel-Galfiniaid , sef hollti hen gynulleidfa enwog Wrecsam . Yn eu dicter at ymosodiadau Thomas Edwards o'r Rhual [q.v.] ar Daniel Williams , ymadawodd Presbyteriaid Wrecsam â'r gynulleidfa, a ffurfio'r ‘ New Meeting ’; Daniel Williams a gododd dŷ cwrdd iddynt yn Chester-Street , a gwaddolodd hwy yn ei ewyllys. A gellir ystyried ‘dadl Henllan Amgoed ’ (gw. dan Owen , Jeremy ) yn ganlyniad arall.

Llyfryddiaeth:

  • Heblaw'r Oxford Dictionary of National Biography , A. N. Palmer , A history of the older nonconformity of Wrexham and its neighbourhood being the third part of ‘A history of the town and parish of Wrexham’ , 1888 , a'r ymdriniaeth lawn ag ewyllys Daniel Williams yn W. D. Jeremy , The Presbyterian Fund and Dr. Williams' Trust , 1885 , 81-94.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor