WILLIAMS, THOMAS CHARLES (1868 - 1927), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Thomas Charles Williams
Dyddiad geni: 1868
Dyddiad marw: 1927
Rhiant: Hugh Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Hughes

Ganwyd 28 Awst 1868 yn Bryntirion, Gwalchmai, sir Fôn, mab i'r Parch. Hugh Williams, a'i fam yn ferch i'r Parch. John Charles (1784 - 1858) ac yn chwaer i'r Parchn. Hugh (1806 - 1839), John (1809 - 1865), William (1817 - 1849), a David (1823 - 1860) Charles - y ddau olaf yn bregethwyr poblogaidd iawn. Cafodd ei addysg yng Nghroesoswallt, y Bala, Aberystwyth, a Choleg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn 1897. Yn 1923 cafodd y radd o D.D. o Brifysgol Edinburgh. Daeth ar ei union o Rydychen i fugeilio eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, Porthaethwy - ei unig fugeiliaeth. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd (1918-9) a'r gymanfa gyffredinol (1921-2). Nodweddid ei bregethu gan artistri perffaith. Meddai ar bersonoliaeth hardd, parabl rhwydd, llais ystwyth cyfoethog, a dychymyg bywiog. 'Roedd iddo hefyd stôr o arabedd, ac erys rhai o'i ffraethebau o hyd ar gof gwlad. Bu farw 29 Medi 1927, a chladdwyd yn Llantysilio.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.