Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , CHARLES ( 1633 - 1720 ), cymwynaswr i Gaerlleon-ar-Wysg , ei dref enedigol. Bu mor anffodus a lladd cefnder iddo ( Morgan o Benrhos ) mewn gornest, â gorfu iddo ffoi o'r wlad. Aeth i Smyrna , a throi at fasnach yno ac mewn gwledydd eraill, megis Rwsia , a chasglodd gyfoeth dirfawr. Llwyddodd John Hanbury o Bont-y-pŵl (gw. dan Hanbury ) i rwyddhau'r ffordd iddo i ddychwelyd i Brydain , yn nheyrnasiad William III , ond ymddengys iddo drigiannu yn Llundain , heb dynnu sylw ato'i hun, eithr gan farchnata mewn stociau a rhoi benthyg arian i'r Llywodraeth — a chwanegu at ei gyfoeth. Bu farw'n ddibriod, 29 Awst 1720 , ‘yn 87 oed’; pan wnaeth ei ewyllys ( Ionawr 1717 ) yr oedd yn byw yn Covent Garden . Yn ei ddiolchgarwch i Hanbury , yr oedd wedi trefnu i £70,000 fynd i Charles , pedwerydd mab Hanbury , ar yr amod iddo chwanegu ‘ Williams ’ at ei gyfenw pan ddelai i oed; gwnaethpwyd hynny yn 1729 ; gw. dan Hanbury-Williams , Syr Charles . Yn ei ewyllys, gadawodd £4,000 i sefydlu ysgol elusennol i 30 o fechgyn a 20 o enethod, yng Nghaerlleon-ar-Wysg , ac i dalu am eu prentisio hyd y caniatâi'r gwaddol; adeiladwyd yr ysgoldy yn 1724 . Ymhellach, mewn atodiad i'r ewyllys ( 23 Awst 1720 ), gadawodd £3,000 arall at atgyweirio'r eglwys yno ac at wella'r ffyrdd yn y dre ac ati.

Llyfryddiaeth:

  • W. Coxe , An historical tour in Monmouthshire , 1801 (arg. 1904 ), 104, 207;
  • Bradney , A History of Monmouthshire , I, ii, 438;
  • adroddiad llawn o'r elusennau yn Report on Charities (‘Monmouth‘) , 1815-39 (‘Monmouth’), 450-60.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor