WILLIAMS, BENJAMIN ('Gwynionydd '; 1821 - 1891), clerigwr ac awdur

Enw: Benjamin Williams
Ffugenw: Gwynionydd
Dyddiad geni: 1821
Dyddiad marw: 1891
Plentyn: Ivor Pryse Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 24 Mehefin 1821 yn Seilach, plwyf Penbryn, Sir Aberteifi; yr oedd yn gefnder i D. Silvan Evans. Annibynnwr oedd ar y cychwyn, eithr ymunodd â'r Eglwys; cafodd gymorth i dderbyn addysg yn Abergwaun, a bu'n feistr un o ysgolion Madam Bevan. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1874 a daeth yn gurad i'w hen noddwr, D. H. Davies, offeiriad Troedyraur ac wedyn yn Nhir-yr-abad; yn ddiweddarach cafodd fywoliaeth Llanofer, sir Fynwy, Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth sef (a) Caniadau (Aberystwyth, 1867), a (b) Briallen Glan Ceri (Caerfyrddin, 1873), traethawd byr ar Lewis Glyn Cothi (Caerfyrddin, 1866), Enwogion Ceredigion (Caerfyrddin, 1869), gwaith sy'n parhau i fod yn ddefnyddiol. Enillodd wobrau am ' Hanes Castell-Emlyn ' (gweler Cyfansoddiadau Buddugol yn Eisteddfod Castellnewydd-Emlyn, 1860), ac yn eisteddfod Aberystwyth, 1865, am draethawd ar draddodiadau Sir Aberteifi. Ysgrifennai i Archaeologia Cambrensis, Yr Haul, Y Brython. Bu farw 7 Rhagfyr 1891.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.