Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , PETER BAILEY ( 1763 - 1836 ), cherigwr a llenor ; g. yn Llandyfeiliog , 1763 (bedyddiwyd 2 Awst ), mab Peter Williams ( 1723 - 1796 ) a brawd Eliezer Williams , yr hynafiaethydd [qq.v.]. Addysgwyd yn ysgol ramadeg Caerfyrddin ac yng Ngholeg Iesu , Rhydychen ( B.A. o Goleg Christ Church , 1790 ). Ordeiniwyd yn ddiacon Chwefror 1788 ac yn offeiriad y mis Tachwedd dilynol. Bu'n gurad yn Lloegr , hyd oni dderbyniodd reithoraeth Llanrug a Llanberis yn 1792 , lle y treuliodd weddill ei oes, gan ddal hefyd dros dro guradiaeth sefydlog Betws Garmon ( 1815-25? ). Priododd (1) â Hannah Jones o Lanrwst (bu f. 1835 ), ym Medi 1804 ; mab iddynt hwy oedd HENRY WILLIAMS ( 1805 - 1879 ), rheithor Llanberis ( 1836-43 ) a Llanrug ( 1843-79 ); a (2) â Charlotte Hands (gweddw) o Amwythig (bu f. 1849 ) yn Nhachwedd 1835 . Bu'n amlwg ym mywyd cyhoeddus Arfon am dymor maith, a gweithredodd fel ustus heddwch am dros chwarter canrif. Ceir llawer o'i lythyrau ar faterion cyhoeddus ymhlith papurau Porth yr Aur yn llyfrgell Coleg y Brifysgol , Bangor . Ceidwadol oedd ei dueddiadau gwleidyddol, fel y prawf ei ysgrifau yn erbyn pleidwyr y chwyldro Ffrengig , ond yr oedd yn gefnogydd eiddgar i fudiadau addysgol , a diau fod yr ysgol Sul a sefydlodd yn Llanrug yn 1793 yn un o'r rhai cyntaf yn Arfon . Bu'n gyfaill ac yn noddwr i lenorion y cylch, Dafydd Ddu a'i gyfeillion, a bu ganddo ran mewn dwyn allan Greal, neu Eurgrawn ( Ieuan Lleyn ) yn 1800 , a Trysorfa Gwybodaeth ( Dafydd Ddu ) yn 1807 . Casglodd nifer o hen lawysgrifau i'w lyfrgell a chopïodd gynnwys eraill; cedwir y rhan fwyaf ohonynt ymhlith llawysgrifau ‘Gwyneddon’ yn llyfrgell Coleg y Brifysgol ym Mangor , ac eraill yn y Llyfrgell Genedlaethol . O dro i dro cyhoeddodd ddyfyniadau o rai ohonynt, a chyfieithiadau Saesneg o rannau o eraill, yng nghylchgronau a newyddiaduron ei gyfnod — yn aml iawn dan ffugenwau fel ‘ Pant ’ a ‘ Peris .’ Heblaw cynorthwyo chwilotwyr fel Nicholas Carlisle a William Cathrall , cyhoeddodd hefyd The Tourist's Guide to the County of Caernarvon , 1821 , a chyhoeddwyd traethodau o'i waith yn Gwyneddion , 1832 , ar hanes Môn , ac yn nhrafodion y Cymmrodorion ( 1843 ), ar fynachdai ac abatai Cymru . Cyfieithodd ddau o lyfrau Baxter yn Gymraeg : Traguyddol Orphwysfa'r Saint , 1825 , a Galwad i'r Annychweledig , 1825 . Er nad oes lawer o wreiddioldeb yn ei waith, haedda glod am wrthod cymryd ei ddenu gan orgraff William Owen Pughe ac am weled mai ffug a thwyll oedd honiadau Iolo Morganwg am orsedd y beirdd. Bu f. 22 Tachwedd 1836 , a chladdwyd ef yn Llanrug .

Llyfryddiaeth:

  • Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon , ix, 1948 , 66-81.

Awdur:

Y Parch. Griffith Thomas Roberts, M.A., (1887-1977), Tregarth, Bangor / Talsarnau

Atodiadau a chywiriadau:

WILLIAMS , PETER BAILEY ( 1763 - 1836 ; Bywg. , 1000) Yn 1798 , ef a arweiniodd y ddringfa graig gyntaf yng ngwledydd Prydain i gael ei chofnodi, sef yn ôl pob tebyg Teras dwyreiniol Clogwyn Du'r Arddu (dringfa ‘gymedrol’ yn ôl y llawlyfrau dringo cyntaf: ‘hawdd’ erbyn hyn). Tywys y llysieuwr Bingley yr ydoedd ar y pryd ond ei syniad ef oedd mentro i fyny'r graig: yr oedd ganddo esgidiau hoelion ar ei draed a phan fethodd Bingley â'i ddilyn, estynnodd ei wregys i'w helpu. Dro arall, aeth â Bingley drosodd i Gwm Idwal ac yna i ben Tryfan , y Gluder Fach a'r Gluder Fawr : ar ben Tryfan , cododd arswyd arno trwy lamu o Adda i Efa , fel y gelwir y ddau faen uwchben y dibyn dwyreiniol. Ni soniodd fawr am fynyddoedd yn ei lyfr taith ar sir Gaernarfon ond anodd credu y buasai wedi tywys gŵr dieithr i'w canol onibai ei fod yn gyfarwydd iawn â'r mannau geirwon. Awgrymwyd gan Evan Roberts mai ef oedd y ‘person chwedlonol’ a anfarwolwyd yn enw Clogwyn y Person : gallai hynny fod ond yn y pedwar degau, wedi marwolaeth Williams , y cyfarfu J.H. Cliffe â'r ‘climbing parson’ anhysbys a ddisgrifiwyd ganddo ef.

Llyfryddiaeth:

  • William Bingley , North Wales,including its scenery, antiquities, customs and some sketches of its natural history; delineated from two excursions … during the summers of 1798 and 1801 , Llundain, 1804 ( 1804 );
  • G.A. Lister , yn The mountains of Snowdonia a , ail arg., Llundain, 1948 (ail arg. 1948 ), 51-2;
  • Evan Roberts , ‘Natural History Notes’ yn H. I. Banner a P. Crew , Clogwyn Du'r Arddu , 1963 ( 1963 );
  • Alan Hankinson , The Mountain Men, an early history of rock climbing in North Wales , Llundain, 1977 ( 1977 ).

Awdur:

Dr Ioan Bowen Rees, (1929-99), Bangor