WILKS, JOHN (1764 neu 1765 - 1854), cyfreithiwr yn Llundain ac aelod seneddol

Enw: John Wilks
Dyddiad geni: 1764 neu 1765
Dyddiad marw: 1854
Plentyn: John Wilks
Rhiant: Matthew Wilks
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr yn Llundain ac aelod seneddol
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Yr unig reswm dros ei gynnwys yma yw mai ef oedd y cyfreithiwr a dynnodd weithred gyfansoddiadol y Methodistiaid Calfinaidd (1826), dan arolygiaeth John Elias a John Davies (1781 - 1848) o'r Fronheulog, Llandderfel ('y Pab o Fôn a'r Cardinal o Fronheulog,' chwedl Michael Roberts, Pwllheli), ac Elias Bassett o Forgannwg (gweler dan Bassett, Richard). Diamau i Wilks gael y gwaith nid yn unig am ei fod yn gefnogwr cymdeithasau crefyddol, ond hefyd am fod ei dad, Matthew Wilks, wedi bod yn un o gynghorwyr Whitefield yn y Tabernacl, ac yn un o gydweithwyr Thomas Charles yn y gwaith o ddarparu Beiblau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.