WILIAM ALAW (fl. c. 1535), bardd uchelwyr

Enw: Wiliam Alaw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd uchelwyr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David James Bowen

Ymhlith yr ychydig o'i waith sydd ar glawr ceir cywydd marwnad i Lywelyn ab Ieuan ab Hywel (bu farw 1534) o Foelyrch sydd wedi ei groniclo yn llawysgrif y plas (Peniarth MS 103: Llyfr Moelyrch (17)). Yr oedd yn un o'r beirdd a ganodd farwnadau i Rys Llwyd ab Einion Fychan o'r Gydros, ac Angharad ei wraig (NLW MS 3051D (128)). Canodd hefyd gywydd i ofyn siaced gan Robert Wyn ap Morus o Abertanad (Llanstephan MS 125 (265)). Claddwyd ef yng Nghroesoswallt (Peniarth MS 122 , Peniarth MS 123 ).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.